Skip to Main Content

Cyllid a Cyfrifeg: Dod o hyd i erthyglau

This guide is also available in English

Beth yw cyfnodolyn?

Mae cyfnodolion yn gyhoeddiadau sy'n cael eu cyhoeddi'n rheolaidd ac yn barhaus, er enghraifft, yn wythnosol, bob mis, bob chwarter neu bob blwyddyn. Maent yn cynnwys detholiad o erthyglau mewn maes pwnc gan wahanol awduron.

Gelwir yr erthyglau hyn yn erthyglau cyfnodolion. Ysgrifennir erthyglau cyfnodolion academaidd gan ymchwilwyr ac adolygir eu herthyglau gan arbenigwyr eraill yn yr un maes pwnc, mewn proses o'r enw adolygiad cymheiriaid. Ystyrir mai erthyglau cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid yw'r erthyglau cyfnodolion o'r ansawdd gorau sydd ar gael. Erthyglau cyfnodolion yw'r lle gorau i ddod o hyd i'r ymchwil ddiweddaraf ar bwnc.

Chwilio am erthygl mewn cyfnodolyn?

  1. Os hoffech ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion ar bwnc, ceisiwch chwilio yn ôl allweddair gan ddefnyddio Chwiliad Uwch yn FINDit.
  2. Gallwch bori trwy gyfnodolyn penodol trwy'r darganfyddwr cyfnodolion. Mae'r porwr cyfnodolion hwn yn caniatáu ichi archwilio casgliadau cyfnodolion yn ôl pwnc.
  3. Ceisiwch fynd yn uniongyrchol i gronfa ddata arbenigol i gael canlyniadau sy'n canolbwyntio ar faes pwnc.
  4. Os ydych wedi dod o hyd i erthygl nad ydym yn darparu mynediad iddi, gallwch ofyn amdani gan lyfrgell arall.


 

Cronfeydd Data Allweddol


Y ffordd hawsaf o ddod o hyd i erthyglau yw trwy ddefnyddio cronfa ddata briodol. Gallwch chwilio yn ôl pwnc / allweddair, awdur, teitl, ac ati, i gael manylion o ble y gellir dod o hyd i erthyglau a phapurau. Mae'r manteision yn cynnwys y gallu i chwilio nifer o flynyddoedd gyda'i gilydd; mwy o grynodebau a chrynoadau, ac yn aml ceir mynediad uniongyrchol i'r testun llawn. Dyma rai o'r cronfeydd data pwysicaf ar gyfer dod o hyd i wybodaeth am eich pwnc:

I weld yr holl gronfeydd data busnes y mae gennych fynediad iddynt, edrychwch ar ein rhestr cronfa ddata A-Z.

Cyfnodolion Allweddol

Cyhoeddir cyfnodolion (a elwir hefyd yn gylchgronau neu gyfresi) yn rheolaidd (er enghraifft, yn wythnosol neu'n fisol). Mae pob rhifyn o gyfnodolion yn cynnwys nifer o erthyglau a ysgrifennwyd gan wahanol awduron. Mae cyfnodolion yn amrywio o ran ansawdd ac enw da: ystyrir bod cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid o ansawdd uwch. Dyma rai enghreifftiau o gyfnodolion sydd ar gael i chi bori ar-lein:

Dim ond ychydig o'r teitlau sydd ar gael yw'r rhain. Defnyddiwch FINDit i ddarganfod mwy.

Teledu Bob a Radio ar-Iien

BoB yw Dysgu ar Sgrin ar deledu Ar Alw a gwasanaeth radio ar gyfer addysg sy'n caniatáu i chi recordio a gweld teledu a radio ar-lein o dros 65 o sianeli am ddim gan gynnwys archif o dros 2 filiwn o raglenni.  Gallwch edrych arno  ar y campws neu gartref (y DU yn unig).

  • Recordio teledu a radio yn gyflym ac yn syml
  • Gweld dros 1 miliwn o raglenni ar gael yn yr archif
  • Creu clipiau i'w defnyddio mewn darlithoedd neu eu hanfon at fyfyrwyr
  • Cadw rhestrau chwarae o'ch hoff ddarllediadau a'ch cyfresi
  • Peidiwch byth â cholli rhaglen gyda byffer o 30 diwrnod

 

Rhestrau Chwarae BoB wedi’u Curadu 
Mae hwn yn gasgliad cynyddol o restrau chwarae wedi'u curadu a gynhelir gan Learning on Screen ac a guradwyd gan academyddion ar ystod amrywiol o ddisgyblaethau, meysydd pwnc neu fodiwlau.

Gartner

Gallwch ddefnyddio Gartner i gael mynediad at:

• Y newyddion ymchwil a thechnoleg TG diweddaraf, astudiaethau achos a thueddiadau i gefnogi eich prosiectau ymchwil a busnes

• Ymchwilio i brosiectau arbennig – Darparu cipolwg ar dueddiadau busnes a thechnoleg mawr

• Gartner Magic Quadrant, Vendor Ratings a Hyde Cycles, i lywio cynlluniau a chefnogi penderfyniadau busnes

• Digwyddiadau TG ar-lein

FINDit

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

Mewn Mannau Eraill ar y We

Google Scholar

Beth yw Google Scholar?

Mae Google Scholar yn ffordd syml o chwilio am lenyddiaeth ysgolheigaidd. Yn Scholar gallwch chwilio ar draws nifer o ddisgyblaethau a ffynonellau, gan gynnwys erthyglau cyfnodolion, traethodau ymchwil, llyfrau a chrynodebau, gan gyhoeddwyr academaidd, cymdeithasau proffesiynol, ystorfeydd ar-lein, prifysgolion a gwefannau eraill. 

Sut mae'n wahanol i Google?

Mae gan Google gwmpas ehangach na Google Scholar ac mae'n edrych am adnoddau waeth o ble maen nhw'n dod a gan bwy maen nhw'n cael eu hysgrifennu. Yn hytrach na chwilio'r we gyfan, mae Google Scholar yn chwilio am lenyddiaeth ysgolheigaidd yn unig. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael canlyniadau llawer mwy perthnasol, awdurdodol a chyfredol.

 

A allaf gael gafael ar erthyglau testun llawn?

Gallwch, ond nid bob amser. Mae rhai erthyglau ar gael am ddim, a gallwch hefyd sefydlu Google Scholar i gael mynediad i danysgrifiadau cylchgronau'r Brifysgol.

 

I wneud hyn, cliciwch ar Settings yna Library Links. Teipiwch University of South Wales i mewn i'r blwch chwilio a dewiswch FINDit@University of South Wales - Viewonline@USW. Ticiwch y bocsus wrth ymyl y canlyniadau ac arbed. Gallwch nawr gael mynediad i'n tanysgrifiadau drwy Google Scholar.

 

A oes angen i mi ddefnyddio FINDit o hyd?

Mae Google Scholar yn fan cychwyn da ar gyfer eich ymchwil, ond cofiwch nad yw'n mynegi popeth. Mae'n bwysig defnyddio FINDit yn ogystal â chwilio ein cronfeydd data tanysgrifiadau a chyfnodolion ar gyfer erthyglau cyfnodolion perthnasol.

 

I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar ein Canllaw ar gyfer FINDit neu cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Cyfadran.

Google Scholar Search

Papurau Newydd

Mae'r adroddiadau papur newydd ar-lein o'r Financial Times ar gael, ond nodwch fod gwaharddiad cyhoeddwr un mis yn golygu nad yw'r papurau diweddaraf ar gael.

Financial Times

Chwilio archifau papurau newydd cenedlaethol a lleol y DU drwy ddefnyddio unrhyw un o'r adnoddau canlynol:

European Newsstream

LexisLibrary