Skip to Main Content

Hanes Naturiol a Chadwraeth: Dod o hyd i Lyfrau

This page is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Chwilio am erthygl mewn cyfnodolyn?

  1. Os hoffech ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion ar bwnc, ceisiwch chwilio yn ôl allweddair gan ddefnyddio Chwiliad Uwch yn FINDit.
  2. Gallwch bori trwy gyfnodolyn penodol trwy'r darganfyddwr cyfnodolion. Mae'r porwr cyfnodolion hwn yn caniatáu ichi archwilio casgliadau cyfnodolion yn ôl pwnc.
  3. Ceisiwch fynd yn uniongyrchol i gronfa ddata arbenigol i gael canlyniadau sy'n canolbwyntio ar faes pwnc.
  4. Os ydych wedi dod o hyd i erthygl nad ydym yn darparu mynediad iddi, gallwch ofyn amdani gan lyfrgell arall.


 

Nodau silff

System ddosbarthu yw system Dewey Decimal a ddefnyddir gan lyfrgelloedd i drefnu llyfrau yn ôl pwnc. Rhoddir rhif nod silff i bob llyfr, ac fe’i rhoddir ar feingefn y llyfr a'i drefnu yn nhrefn rifiadol.

Ar ôl y rhifau, mae yna dair llythyren sy'n cyfeirio at awdur neu olygydd y llyfr ac sydd yn nhrefn yr wyddor.

Dyma rai nodau silff allweddol ar gyfer eich maes pwnc.

333.7   Gwyddoniaeth Amgylcheddol
333.72   Cadwraeth ac amddiffyn
333.95   Bioleg cadwraeth a bioamrywiaeth
333.954   Rheolaeth bywyd gwyllt
344.20446   Cyfraith amgylcheddol
508   Hanes naturiol
551.6   Hinsawdd
577   Ecoleg
578   Biogeograffeg
581   Hanes naturiol planhigion
591   Hanes naturiol anifeiliaid
592   Infertebratau
597   Pysgod
598   Adar
599   Mamaliaid
628.5   Rheolaeth llygredd
634.9   Coedwigaeth
778   Ffotograffiaeth, sinematograffeg a chynhyrchu fideo

Argymell llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad Llyfrgell


A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?

  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarlleniad hynod ddiddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o werslyfr pwysig?
  • Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo

Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.

Findit 

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

Astudio llyfrau sgiliau