Skip to Main Content

Rheoli Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg Gynaliadwy: Dod o hyd i Lyfrau

This page is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

Nodau silff

System ddosbarthu yw system Dewey Decimal a ddefnyddir gan lyfrgelloedd i drefnu llyfrau yn ôl pwnc. Rhoddir rhif nod silff i bob llyfr, ac fe’i rhoddir ar feingefn y llyfr a'i drefnu yn nhrefn rifiadol.

Ar ôl y rhifau, mae yna dair llythyren sy'n cyfeirio at awdur neu olygydd y llyfr ac sydd yn nhrefn yr wyddor.

Dyma rai nodau silff allweddol ar gyfer eich maes pwnc.

 

333.7 - 333.9    Adnoddau Naturiol ac Ynni
333.79    Ynni
333.794    Ynni adnewyddadwy
CAT.2  344.20446    Cyfraith Amgylcheddol
363.7    Problemau Amgylcheddol
610.042     Peirianneg ynni
621.312136    Cynhyrchu â Gwynt
621.31244    Ynni Solar
628.2    Gwaredu Carthion
628.4458    Ailgylchu Deunyddiau Dŵr
658.408

   Rheolaeth Amgylcheddol

Findit 

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

Astudio llyfrau sgiliau

Argymell llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad Llyfrgell


A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?

  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarlleniad hynod ddiddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o werslyfr pwysig?
  • Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo

Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.