Mae cyfnodolion yn gyhoeddiadau sy'n cael eu cyhoeddi'n rheolaidd ac yn barhaus, er enghraifft, yn wythnosol, bob mis, bob chwarter neu bob blwyddyn. Maent yn cynnwys detholiad o erthyglau mewn maes pwnc gan wahanol awduron.
Gelwir yr erthyglau hyn yn erthyglau cyfnodolion. Ysgrifennir erthyglau cyfnodolion academaidd gan ymchwilwyr ac adolygir eu herthyglau gan arbenigwyr eraill yn yr un maes pwnc, mewn proses o'r enw adolygiad cymheiriaid. Ystyrir mai erthyglau cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid yw'r erthyglau cyfnodolion o'r ansawdd gorau sydd ar gael. Erthyglau cyfnodolion yw'r lle gorau i ddod o hyd i'r ymchwil ddiweddaraf ar bwnc.
Mae cronfa ddata yn gasgliad electronig o wybodaeth sy'n cael ei storio mewn rhaglen gyfrifiadurol sy'n eich galluogi i ddod o hyd i wybodaeth o'r gronfa ddata mewn gwahanol ffyrdd. Gall cronfeydd data yn y llyfrgell gynnwys erthyglau cyfnodolion, erthyglau papur newydd, gwybodaeth arbenigol neu gyfuniad o wahanol adnoddau gwybodaeth. Gall cronfeydd data fod yn amlddisgyblaethol neu'n benodol i bwnc
Os ydych chi'n chwilio am deitl cyfnodolyn penodol yna cliciwch 'DOD O HYD I GYFNODOLION' ar frig FIND it i chwilio/pori rhestr A-Y. Pan fyddwch wedi dod o hyd i'r cyfnodolyn rydych chi ei eisiau, cliciwch ar y teitl i weld yr holl wybodaeth berthnasol ar gyfer y teitl hwnnw.
Bydd yr adran 'Gweld Ar-lein' yn rhoi dolenni i chi i'r cyfnodolyn a gwybodaeth am ba ddyddiadau y mae gan PDC fynediad iddynt.
Chwilio archifau papurau newydd cenedlaethol a lleol y DU drwy ddefnyddio unrhyw un o'r adnoddau canlynol:
Mae Google Scholar yn ffordd wych o chwilio am wybodaeth ac mae'n atodiad defnyddiol i chwiliadau cronfa ddata. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Cymorth.