Mae rhestrau darllen yn darparu mynediad di-dor i amrywiaeth o adnoddau, gall y rhain gynnwys llyfrau, erthyglau cyfnodolion, penodau llyfrau wedi'u digideiddio, gwefannau a chynnwys clyweledol. Llunnir a rheolir rhestrau darllen gan eich darlithwyr, felly maen nhw'n fan cychwyn da ar gyfer unrhyw aseiniad. Disgwylir i chi wneud ymchwil bellach ar eich pynciau penodol. Gellir cyrchu rhestrau darllen trwy ddolen yn eich amgylchedd dysgu rhithwir, e.e. Blackboard, Teams, Moodle.
DS: Os na allwch ddod o hyd i restr ddarllen ar gyfer eich modiwl, cysylltwch รข'ch darlithydd.
Gellir cyrchu'ch rhestrau darllen trwy ddolen ar ochr chwith Blackboard.
Os nad oes gennych restr, cysylltwch â'ch darlithydd.
Os yw'ch cwrs yn defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir gwahanol e.e. Moodle, Teams, efallai ei fod wedi'i leoli'n wahanol.