Os ydych chi'n fyfyriwr a staff cyfredol Prifysgol De Cymru, gallwch gyrchu ein eLyfrau ar ac oddi ar y campws. Mae'r fideo hon yn esbonio sut y gallwch ddod o hyd i eLyfrau o FINDit a chael mynediad atynt.
Mae eLyfrau ar gael o amrywiaeth o wahanol lwyfannau eLyfrau, gan gynnwys VLeBooks, EBSCO a ProQuest. Er eu bod yn edrych yn wahanol, byddant yn darparu un neu'r ddau o'r opsiynau canlynol pan fyddwch wedi cyrchu eLyfr o FINDit.
Dewiswch y tabiau i ddarganfod mwy.
Yn syml, mae darllen ar-lein yn golygu eich bod chi'n darllen o'ch sgrin. Dylai weithio ar draws pob dyfais o gyfrifiaduron personol, gliniaduron, llechi a ffonau clyfar. Nid oes angen i chi lawrlwytho unrhyw feddalwedd i wneud hyn, dim ond eich bod wedi cysylltu â'r rhyngrwyd.
Weithiau bydd gan lyfr gyfyngiad ar ba mor hir y gellir edrych arno (e.e. 1 awr, 4 awr) yn yr achosion hyn bydd yn cael ei nodi'n glir ar y dudalen wybodaeth pan fyddwch chi'n cyrchu'r llyfr gyntaf.
Bydd y mwyafrif o lwyfannau darllen eLyfr yn cynnwys y canlynol:
• Chwiliad o fewn y llyfr.
• Tabl cynnwys: rhestr o benodau ac adrannau yn y llyfr.
• Ychwanegu nodiadau personol neu anodiadau.
• Addasu maint y testun yn y sgrin.
• Copïo, cadw neu argraffu nifer cyfyngedig o dudalennau (tua 5-10% fel arfer). Cofiwch gyfeirio'r llyfr yn eich aseiniadau. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfeirnodi ar y dudalen Sgiliau Academaidd - cyfeirio.
Mae llawrlwytho llyfr yn golygu y gallwch gadw copi ohono am gyfnod cyfyngedig ar eich dyfais. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddwch yn gallu copïo nac argraffu yn uniongyrchol ohono. Dylech allu llawrlwytho eLyfr ar bob dyfais. Ar y rhan fwyaf o lwyfannau eLyfrau, bydd angen i chi gofrestru neu sefydlu cyfrif personol gyda'ch cyfeiriad e-bost myfyriwr/staff.
I lawrlwytho, bydd angen Adobe ID a meddalwedd darllen sgrin arnoch fel Adobe Digital Editions (am ddim) neu BlueFire reader.
[Quick video what downloading eBooks looks like]
Bydd eLyfrau llyfrgell a brynir o dan drwyddedau sefydliadol yn cael eu darllen gan fwy nag un person felly maent yn wahanol i'r eLyfrau a werthir yn fasnachol i unigolion. Mae llawer o gyhoeddwyr academaidd yn gosod cyfyngiadau ar eLyfrau a werthir i lyfrgelloedd ac maent yn aml yn llawer mwy costus.
Mae yna lawer o fathau o drwyddedau sefydliadol, ac mae'r cyfyngiadau'n amrywio. Er enghraifft, bydd rhai eLyfrau yn caniatáu mynediad diderfyn, tra bydd eLyfrau eraill yn caniatáu i un neu dri myfyriwr ei gyrchu ar unrhyw un adeg.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am eLyfrau, cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc.