Skip to Main Content

Astudiaethau Crefyddol: Dod o hyd i Lyfrau

This guide is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

SHELF MARKS

 

170 Moeseg
190 Athroniaeth fodern
200 Crefydd gyffredinol
205 Moeseg grefyddol
220 Beibl
230 Cristionogaeth
294.3 Bwdhaeth
296 Hindwaeth
297 Sikhiaeth
294.6 Iddewiaeth
294.6 Islam

  

Llyfrau mynediad agored

Gweler isod gysylltiadau i ddetholiad o gadwrfeydd mynediad agored sy'n cynnwys testunau hanes:

FINDit (catalogue)

Awgrymu llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad llyfrgell

  • A oes llyfr a fyddai'n gwneud ychwanegiad defnyddiol i'n llyfrgell?   
  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarllen diddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?  
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o lyfr pwysig? 

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo.