Skip to Main Content

Coleg Partner

Cefnogaeth Llyfrgell i fyfyrwyr mewn Colegau Partner
This guide is also available in English

Cael Mynediad i Lyfrgell PDC

Mae aelodaeth o Lyfrgell PDC ar gael i ddarlithwyr sy’n addysgu myfyrwyr ar gyrsiau achrededig PDC a staff llyfrgelloedd sy’n cefnogi myfyrwyr PDC mewn llyfrgell neu ganolfan ddysgu sefydliad partner.

E-bostiwch librarysupport@southwales.ac.uk i drefnu i’ch cyfrif Llyfrgell PDC gael ei sefydlu.

Llyfrgellwyr Cyfadran

Mae Llyfrgellwyr Cyfadran yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael o'r llyfrgell. Mae Llyfrgellwyr Cyfadran yn croesawu ymholiadau a gallant ddarparu hyfforddiant mewn defnyddio adnoddau llyfrgell i staff mewn sefydliadau partner. Mae pob Llyfrgellydd Cyfadran yn gyfrifol am wahanol feysydd pwnc. Mae tudalen we Llyfrgellydd Cyfadran yn rhestru Llyfrgellwyr y Gyfadran a'u meysydd pwnc.

Chwilio am restrau darllen


Chwilio am restrau darllen yn ôl teitl neu god modiwl.
 

 

 

Mae gan Brifysgol De Cymru system rhestrau darllen ar-lein. Rheolir hwn gan Lyfrgell PDC ac mae’n cynnwys rhestrau darllen ar gyfer y rhan fwyaf o fodiwlau a addysgir gan y brifysgol.

Digwyddiadau

Myfyrwyr Parod ar gyfer y Dyfodol - Rhaglen digwyddiadau'r Llyfrgell

Mae gennym raglen wych o ddigwyddiadau eleni. Mae digwyddiadau'n amrywio o ddosbarthiadau llyfrgell a sgiliau astudio i sgyrsiau awduron, sesiynau hyfforddiant cronfa ddata, a llawer mwy. Ymunwch â ni!