Skip to Main Content

Offer cyfeirnodi

Bydd y canllaw hwn yn amlinellu'r offer cyfeirio a ddefnyddir amlaf. This guide is also available in English

Cyflwyniad a mynediad

Mae gan MS Word dab References sy'n eich galluogi i fewnosod cyfeiriadau (Insert Citations), rheoli (Manage) ffynonellau, dewis srddull (Style) a chreu llyfryddiaeth (Bibliography) (yn y grŵp Citations & Bibliography). Mae cyfeiriadau'n cael eu storio mewn prif restr, y gellir ei defnyddio mewn dogfennau Word eraill.

Cyfeirio mewn testun

  • Yn y tab References ar y rhuban, cliciwch ar 'Insert Citation' ac yna 'Add New Source'.
  • Dewiswch ‘Type of Source' a chwblhewch y blychau.

Creu rhestr gyfeirio

Creu eich llyfryddiaeth

  • Ewch i ddiwedd eich dogfen a chliciwch ar yr opsiwn ‘Bibliography’ yn y tab ‘References’ (yn y grŵp Citations & Bibliography).
  • Dewiswch o un o'r opsiynau sydd wedi’u fformadu’n barod ar y rhestr 'Style'. Mae arddulliau MS Word yn cefnogi:
    • APA (6ed argraffiad) - APA yw'r arddull gyfeirnodi sydd ei angen ar gyfer myfyrwyr Seicoleg. Mae canllaw PDC yn seiliedig ar APA (7fed argraffiad).
    • Harvard-Anglia - Harvard yw'r prif ddull cyfeirnodi a argymhellir yn PDC.
    • ISO 690:1987 - Mae angen arddull cyfeirnodi rhifol ar gyfer myfyrwyr Cemeg, Gwyddor Fferyllol a Gwyddoniaeth Fforensig. Mae canllaw PDC yn seiliedig ar arddull y Gymdeithas Frenhinol Cemeg.

Mae'n bosibl y bydd yr arddulliau hyn yn cydymffurfio'n union â chanllawiau PDC ar gyfer eich arddull cyfeirnodi, felly gwiriwch a golygwch y cyfeiriad pan fo angen i gydymffurfio.