/*remove search box*/ Skip to Main Content

Y llyfrgell: sut mae o fudd i mi? : Cwrdd â'ch Llyfrgellydd

Mae'r canllaw hon hefyd ar gael yn English

 

Llyfrgellwyr Cyfadran

Ddim yn siŵr ble i ddechrau neu deimlo'n ddryslyd? Gall eich Llyfrgellydd pwnc arbenigol helpu. Byddwn yn dangos i chi sut i gael y gorau o'r adnoddau sydd ar gael ac yn eich galluogi i ddod o hyd i wybodaeth o ansawdd da sy'n berthnasol i'r meysydd pwnc rydych yn eu hastudio.

Bydd eich Llyfrgellydd hefyd yn eich cefnogi i ddatblygu'r ystod o sgiliau sydd eu hangen i leoli a gwerthuso gwybodaeth yn effeithiol. Drwy gydol y flwyddyn bydd y llyfrgellydd ar gyfer eich pwnc yn cynnal gweithdai sy'n eich cyflwyno i wasanaethau'r Llyfrgell, yn eich hyfforddi i ddefnyddio'r adnoddau ar-lein a ffynonellau gwybodaeth pwnc-benodol eraill.

Gallwch hefyd gysylltu â'ch Llyfrgellydd gydag ymholiadau, neu i wneud apwyntiad i gael cymorth arbenigol un-i-un.