Skip to Main Content
It looks like you're using Internet Explorer 11 or older. This website works best with modern browsers such as the latest versions of Chrome, Firefox, Safari, and Edge. If you continue with this browser, you may see unexpected results.

Marchnata, Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata Digidol Strategol: Hafan

This guide is also available in English

Croeso

Croeso i'ch canllaw pwnc. Llywiwch y canllaw gan ddefnyddio'r tabiau, lle byddwch chi'n dod o hyd i wybodaeth a dolenni i adnoddau dibynadwy yn y llyfrgell i helpu gyda'ch aseiniadau

  • Os ydych chi'n newydd i Lyfrgell PDC, ewch i'r tab Datblygu eich sgiliau, lle byddwch chi'n dod o hyd i ystod o gymorth a chefnogaeth trwy ein sesiynau tiwtorial, fideos a chanllawiau.
  • Gweler ein tudalen benthyca ac aelodaeth i gael manylion am fenthyca, gwneud cais am adnoddau llyfrgell a'u dychwelyd.
  • Am yr ystod lawn o amseroedd agor ar gyfer llyfrgell campws, gweler y ddolen yn y 'Dolenni Cyflym' isod.

Dyma hefyd y lle i ymgyfarwyddo â'ch Llyfrgellydd Cyfadran.

Twitter

Cysylltwch รข'ch Llyfrgellydd

Eich llyfrgellydd yw Lowri Williams.

Os hoffech gael cymorth i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich aseiniad neu'ch traethawd hir, yna gallwch drefnu apwyntiad i'w gweld yn defnyddio'r system archebu apwyntiadau.

E-bost: lowri.williams@southwales.ac.uk

Gofynnwch i Lyfrgellydd

Sut u Gall y Canllaw Hwn Helpu?

Bydd y canllaw hwn yn eich cyfeirio at ystod o ffynonellau gwybodaeth gorau ar eich maes pwnc.

Mae eich llwyddiant fel myfyriwr yn dibynnu ar ddarllen a chyfeirio at ystod eang o wybodaeth awdurdodol.

Defnyddiwch y canllaw hwn i ddysgu sut i chwilio cronfeydd data ysgolheigaidd a phroffesiynol.

Bydd datblygu eich sgiliau chwilio hefyd o fudd i'ch rhagolygon cyflogaeth, ynghyd â sgiliau meddwl beirniadol, y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.

Cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Cyfadran am arweiniad pellach.