Skip to Main Content

Dogfennau Polisi Llyfrgell

This guide is also available in English

 

Dirwyon a thaliadau

Oni bai bod rhywun arall yn gofyn am eich eitemau, bydd eich eitemau'n cael eu hadnewyddu'n awtomatig, felly ni fyddwch yn cronni dirwyon os byddwch yn anghofio adnewyddu.

Os bydd rhywun arall yn gofyn am eitem sydd gennych ar fenthyg, cewch eich hysbysu drwy eich e-bost myfyriwr a bydd disgwyl i chi ddychwelyd yr eitem erbyn y dyddiad dyledus. Bydd methu â dychwelyd yn arwain at gronni dirwyon ac ni fydd yr eitem yn adnewyddu mwyach. Yn y pen draw, efallai y bydd eich cyfrif yn cael ei effeithio os na chaiff eitem a alwyd yn ôl ei dychwelyd. Felly, mae'n bwysig iawn eich bod yn darllen e-byst oddi wrthym ni a'ch bod yn gwirio Fy Nghyfrif yn rheolaidd i sicrhau nad oes angen eich llyfrau ar eraill, neu eu bod wedi cyrraedd eu dyddiad hwyaf. Gellir dod o hyd i holl fanylion eich benthyciadau ar eich cyfrif llyfrgell.

Dirwyon Prifysgol De Cymru £1.00 y dydd / rhan o ddiwrnod hyd at uchafswm o £20.00 yr eitem
Dirwyon Coleg Merthyr Os yw un o'ch eitemau wedi dod o Goleg Merthyr, y ddirwy yw 15c y dydd fesul eitem, hyd at uchafswm o £10.00 yr eitem.* Sylwch fod gwahanol bolisïau ailadnewyddu ar gyfer eitemau Prifysgol De Cymru a Choleg Merthyr a allai effeithio ar y gyfradd dirwyon. Mae manylion pellach ar gael ar ein tudalen adnewyddu.
Ceisiadau Benthyciad Rhyng-lyfrgellol gan fyfyrwyr a addysgir Mae'r pum cais cyntaf am ddim ym mhob blwyddyn academaidd, ar ôl hynny, £3.00 yr eitem ar gyfer ceisiadaua fodlonir.
Tâl am fenthyciadau Rhyng-lyfrgellol coll, heb eu dychwelyd. £182.80 yr eitem (o bosibl yn uwch os yw'n gostus i amnewid deunydd). Mae hwn yn dâl a orfodir gan y Llyfrgell Brydeinig.
Costau newydd ar gyfer llfrau na chawsant eu dychwelyd, eu colli neu eu difrodi. Mae isafswm tâl safonol o £25.00 yr eitem ar gyfer eitemau sydd allan o brint. Ar gyfer pob un arall, codir y lleiafswm safonol o £25.00 neu werth llawn yr eitem, pa un bynnag yw'r mwyaf, fel rhan o'n proses adennill dyledion.
Dirwyon benthyg gliniaduron £1.00 yr awr hyd at uchafswm o £10.00 y diwrnod. Uchafswm tâl o £100.00 yr eitem.
Dirwyon benthyg offer cyfryngau Dirwyon o £10.00 y dydd neu ran ohono, yn amodol ar uchafswm tâl o £100.00 yr eitem.

Sut i dalu am ddirwyon a thaliadau?

Gellir talu fel a ganlyn:

  • Trwy ddefnyddio'r siop ar-lein. Nid oes isafswm taliad. Cewch dderbynneb drwy e-bost ar ôl i chi dalu.

Sylwer:
Cyn rhoi dirwyon, anfonir nifer o hysbysiadau i'ch e-bost Prifysgol De Cymru i roi gwybod i chi na allwch adnewyddu benthyciad eitemau penodol:

  • Pan fydd defnyddiwr arall yn gwneud cais, anfonir hysbysiad drwy e-bost i ddweud na ellir adnewyddu'r eitem a bydd angen ei dychwelyd erbyn y dyddiad dyledus.
  • Dau ddiwrnod cyn y dyddiad dyledus anfonir hysbysiad cwrteisi.
  • Ar y diwrnod y disgwylir yr eitem yn ôl caiff hysbysiad ei e-bostio i ddweud bod yr eitem yn ddyledus heddiw. 
  • Anfonir hysbysiadau hwyr 7 diwrnod a 14 diwrnod ar ôl y diwrnod dyledus i atgoffa nad ydych wedi dychwelyd y llyfr a bod dirwyon yn cael eu cronni.
  • Os byddwch yn methu ag ymateb byddwn yn codi isafswm o £25.00 arnoch neu werth llawn yr eitem, pa un bynnag yw'r mwyaf fel rhan o'n proses adennill dyledion.

Os ydych chi'n cael trafferth dychwelyd eitemau mewn pryd, cysylltwch â'r Llyfrgell cyn gynted â phosibl.