Skip to Main Content

Sgiliau llyfrgell

This guide is also available in English

Croeso i dechrau arni

Nod y canllaw hwn yw cyflwyno myfyrwyr PDC newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i'r gwasanaethau a'r adnoddau sydd ar gael gan y Gwasanaethau Llyfrgell. Os nad ydych wedi defnyddio'r llyfrgell o'r blaen, bydd y wybodaeth ar y dudalen 'Dechrau Arni' hon yn fan cychwyn defnyddiol.

Os ydych chi ar fin cychwyn prosiect newydd ar gyfer aseiniad dosbarth, ond bod angen help neu sesiwn diweddaru arnoch chi ar sut i ddechrau eich chwiliad, ewch i'n dewislen 'Sut i ddod o hyd i lyfr' neu 'Sut i ddod o hyd i erthygl neu gyfnodolyn' i roi cynnig ar ein tiwtorialau a gweld ein canllawiau fideo 'Sut i ...'.

Yn olaf, mae'r gwasanaethau llyfrgell yma i helpu, trwy ateb eich cwestiynau o'r ymholiad ymchwil mwyaf sylfaenol i'r ymholiad ymchwil mwy datblygedig.

Gallwch gysylltu â ni'n uniongyrchol neu trwy ein gwasanaeth sgwrsio. Gallwch hefyd  archebu apwyntiad un i un gyda'ch llyfrgellydd cyfadran.

Cyflwyniad i'r llyfrgell

Am ragor o wybodaeth am y Llyfrgell, gweler ein canllaw isod:

Dod o hyd i Lyfrgellydd

Chwilio am Lyfrgellydd? Dewiswch o'r rhestr isod.

Apwyntiadau

Os oes angen cefnogaeth neu help arnoch gyda'ch aseiniad prosiect yna trefnwch apwyntiad gyda'ch Llyfrgellydd.