Skip to Main Content

Cemeg a Gwyddoniaeth Fferyllol: Dod o hyd i Lyfrau

This page is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Nodau silff

540 Cemeg Gyffredinol
540.246287 Cemeg Amgylcheddol
541 Cemeg ffisegol a damcaniaethol
546 Cemeg anorganig
547  Cemeg organig
615.19 Cemeg Fferyllol
 

Llyfrau

Argymell llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad Llyfrgell


A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?

  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarlleniad hynod ddiddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o werslyfr pwysig?
  • Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo

Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

FinditĀ 

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.