Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.
1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.
2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.
3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd
Gallwch bori drwy'r casgliad gan ddefnyddio'r marciau silff isod:
363.25 | Ymchwiliad Troseddol - Gwyddoniaeth Fforensig |
364.106 | Troseddau Cyfundrefnol |
364.152 | Lladdiad |
364.1523 | Llofruddiaeth |
364.163 | Twyll |
364.2 | Achosion Trosedd a Thramgwydd |
364.3 | Rheoli Troseddwyr |
364.4 | Atal Troseddu |
364.6 | Penydeg |
364.63 | Prawf |
365 | Carchardai |
Defnyddiwch FINDit: Chwilio/Llyfrgelloedd, i wneud chwiliadau manwl ar gyfer llyfrau unigol neu ar gyfer deunydd sy'n berthnasol i'ch testun neu bwnc.
Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo.