Cymerwch gip ar ein tudalen Sgiliau llyfrgell a fydd yn eich cyfeirio at yr holl wybodaeth help a chymorth sydd ar gael gan Gwasanaethau Llyfrgell.
Dyma'r lle i ddarganfod mwy am y sesiynau sgiliau Llyfrgell sydd ar gael i bob myfyriwr yn PDC:
1. Sgiliau llyfrgell: cychwyn arni - sesiwn wedi'i hanelu at fyfyrwyr sy'n newydd i PDC.
2. Sgiliau llyfrgell: y cam nesaf - sesiwn gyda'r nod o baratoi myfyrwyr ar gyfer ymgymryd â darn sylweddol o ymchwil unigol, fel traethawd estynedig.
Neu rhowch gynnig ar ein canllaw Sgiliau llyfrgell a fydd yn eich rhoi ar ben ffordd, gyda'r pethau sylfaenol fel dod o hyd i lyfr, erthygl neu gyfnodolyn.
Os oes angen cymorth unigol arnoch, gallwch drefnu apwyntiad gyda’ch Llyfrgellydd Cyfadran neu gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth sgwrsio 24/7 i gael ymateb cyflym i'ch cwestiwn.
Gellir dod o hyd i ganllawiau PDC ar y dudalen Canllawiau Cyfeirio:
Yr eithriadau yw:
Mae gennym hefyd ganllaw Offer cyfeirnodi sy'n amlinellu'r prif offer a gefnogir ym Mhrifysgol De Cymru a'r offer rhad ac am ddim a ddefnyddir amlaf.
Cymorth pellach
Os hoffech gael canllaw mwy cynhwysfawr ar gyfeirio, bydd yr e-lyfr isod yn helpu gyda'r holl arddulliau a restrir uchod.
Gallwch hefyd wneud apwyntiad gyda thiwtor sgiliau astudio.
Ydych chi erioed wedi dod o hyd i gynnwys yn eich cwrs a oedd yn anodd ei ddarllen, neu yr ydych yn dymuno y byddai mewn fformat gwahanol? Blackboard ALLY yw'r ateb.
Mae’r offeryn fformatau amgen ALLY yn eich galluogi i drosi ffeiliau a lanlwythwyd i Blackboard gan eich darlithwyr i amrywiaeth eang o fformatau gwahanol, gan gynnwys:
Gwell gennych ddarllen yn eich iaith gyntaf? Gall ALLY gyfieithu dogfennau cwrs i 30 o ieithoedd gwahanol.
Gallwch lawrlwytho eich hoff fformat unrhyw le y gwelwch yr eicon fformat amgen ALLY ar Blackboard - gwych ar gyfer dysgu eich ffordd chi wrth fynd.
Chwiliwch am yr eicon fformat amgen yn Blackboard.
Darganfyddwch fwy ar Unilearn