Skip to Main Content

Peirianneg - Sifil: Dod o hyd i Lyfrau

This page is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

Nodau silff

System ddosbarthu yw system Dewey Decimal a ddefnyddir gan lyfrgelloedd i drefnu llyfrau yn ôl pwnc. Rhoddir rhif nod silff i bob llyfr, ac fe’i rhoddir ar feingefn y llyfr a'i drefnu yn nhrefn rifiadol.

Ar ôl y rhifau, mae yna dair llythyren sy'n cyfeirio at awdur neu olygydd y llyfr ac sydd yn nhrefn yr wyddor. Dyma rai nodau silff allweddol ar gyfer eich maes pwnc.

510.2462                 

   Peirianneg mathemateg                     
526.9    Tirfesur  
620.00420285    Dylunio â chymorth cyfrifiadur
620.11    Peirianneg deunyddiau
624    Peirianneg sifil  
624.0289    Iechyd a Diogelwch mewn adeiladu
624.068    Rheoli prosiectau             
624.1    Peirianneg strwythurol
624.15    Geotechneg
624.171    Dadansoddiad strwythurol
624.2    Peirianneg pontydd
625.1    Peirianneg rheilffordd
625.7    Peirianneg priffyrdd
627    Peirianneg hydrolig
628    Peirianneg amgylcheddol
681.76    Offer adeiladu

e-lyfrau

FinditĀ 

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

Astudio llyfrau sgiliau

Argymell llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad Llyfrgell


A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?

  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarlleniad hynod ddiddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o werslyfr pwysig?
  • Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo

Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.