Skip to Main Content

Ffilm a'r Cyfryngau: Dod o hyd i erthyglau

Canllaw i fyfyrwyr sy'n astudio Sinema, Ffilm a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol De Cymru. This guide is also available in English.

Beth yw cyfnodolyn?

Mae cyfnodolion yn gyhoeddiadau sy'n cael eu cyhoeddi'n rheolaidd ac yn barhaus, er enghraifft, yn wythnosol, bob mis, bob chwarter neu bob blwyddyn. Maent yn cynnwys detholiad o erthyglau mewn maes pwnc gan wahanol awduron.

Gelwir yr erthyglau hyn yn erthyglau cyfnodolion. Ysgrifennir erthyglau cyfnodolion academaidd gan ymchwilwyr ac adolygir eu herthyglau gan arbenigwyr eraill yn yr un maes pwnc, mewn proses o'r enw adolygiad cymheiriaid. Ystyrir mai erthyglau cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid yw'r erthyglau cyfnodolion o'r ansawdd gorau sydd ar gael. Erthyglau cyfnodolion yw'r lle gorau i ddod o hyd i'r ymchwil ddiweddaraf ar bwnc.

Chwilio am erthygl mewn cyfnodolyn?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

Cronfeydd data allweddol

Dyma rai o'r cronfeydd data pwysicaf ar gyfer eich pwnc:

I gael mynediad i fwy o gronfeydd data, ewch i'r dudalen cronfeydd data Ffilm ac Effeithiau Gweledol yma.

Rhestr chwarae BoB - Ffilm ac Effeithiau Gweledol

Google Scholar

Beth yw Google Scholar?

Mae Google Scholar yn ffordd syml o chwilio am lenyddiaeth ysgolheigaidd. Yn Scholar gallwch chwilio ar draws nifer o ddisgyblaethau a ffynonellau, gan gynnwys erthyglau cyfnodolion, traethodau ymchwil, llyfrau a chrynodebau, gan gyhoeddwyr academaidd, cymdeithasau proffesiynol, ystorfeydd ar-lein, prifysgolion a gwefannau eraill. 

Sut mae'n wahanol i Google?

Mae gan Google gwmpas ehangach na Google Scholar ac mae'n edrych am adnoddau waeth o ble maen nhw'n dod a gan bwy maen nhw'n cael eu hysgrifennu. Yn hytrach na chwilio'r we gyfan, mae Google Scholar yn chwilio am lenyddiaeth ysgolheigaidd yn unig. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael canlyniadau llawer mwy perthnasol, awdurdodol a chyfredol.

 

A allaf gael gafael ar erthyglau testun llawn?

Gallwch, ond nid bob amser. Mae rhai erthyglau ar gael am ddim, a gallwch hefyd sefydlu Google Scholar i gael mynediad i danysgrifiadau cylchgronau'r Brifysgol.

 

I wneud hyn, cliciwch ar Settings yna Library Links. Teipiwch University of South Wales i mewn i'r blwch chwilio a dewiswch FINDit@University of South Wales - Viewonline@USW. Ticiwch y bocsus wrth ymyl y canlyniadau ac arbed. Gallwch nawr gael mynediad i'n tanysgrifiadau drwy Google Scholar.

 

A oes angen i mi ddefnyddio FINDit o hyd?

Mae Google Scholar yn fan cychwyn da ar gyfer eich ymchwil, ond cofiwch nad yw'n mynegi popeth. Mae'n bwysig defnyddio FINDit yn ogystal â chwilio ein cronfeydd data tanysgrifiadau a chyfnodolion ar gyfer erthyglau cyfnodolion perthnasol.

 

I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar ein Canllaw ar gyfer FINDit neu cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Cyfadran.

Google Scholar Search