Skip to Main Content

Ffilm a'r Cyfryngau: BoB : teledu a radio ar-lein

Canllaw i fyfyrwyr sy'n astudio Ffilm a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol De Cymru. This guide is also available in English

Beth yw BoB?

Mae BoB ar gael i staff, myfyrwyr ac ymchwilwyr yn PDC..

Nodweddion Allweddol:

  • Mynediad at 2.7 filiwn o ddarllediadau sy'n dyddio'n ôl i'r 1990au.
  • Recordio o dros 75 o sianelau am ddim.
  • Archif barhaol o gynnwys naw sianel: BBC1 Llundain / BBC2 / BBC4 / ITV Llundain / Channel 4 / More4 / Channel 5 / BBC Radio 4 / BBC Radio 4 Extra 
  • Cynnwys Archif Shakespeare y BBC yn dyddio nôl i'r 1950au.
  • Creu rhestrau chwarae, clipiau a chasgliadau clipiau.
  • Chwilio trawsgrifiadau rhaglenni ac isdeitlau.
  •  Ar gael ar bob dyfais

Rhestr chwarae BoB - Ffilm a'r Cyfryngau

Mae creu rhestr chwarae yn caniatáu i chi grwpio fideos neu glipiau perthynol ynghyd i chi'ch hun neu i'w rhannu gyda'ch myfyrwyr. Dyma rai rhestrau chwarae pwnc a grëwyd gan eich Llyfrgellydd Cyfadran.

Rhestrau Chwarae wedi'u Curadu

Adnodd cyfoethog o glipiau a gasglwyd a darllediadau teledu neu radio unigol a grëwyd gan academyddion y DU o feysydd pwnc neu fodiwlau penodol. 

•  40 Mlynedd o Sianel 4 - Rhan 1 | Rhan 2 | Rhan 3 
    Dathliad o Sianel 4 gyda samplau o'i raglenni o bob rhan o'r degawdau.

Canllaw

  • Ynglŷn â BoB - am wybodaeth a ffilmiau ar ddechrau arni, gofyn am raglen, creu rhestri chwarae a chlipiau, rhannu a mewnosod, archifau a chlipiau a Chwestiynau Cyffredin. 
  • Dod o hyd i ddelweddau llonydd a symudol - Canllaw i'ch helpu i ddod o hyd i ddelweddau llonydd a symudol.