Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.
1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.
2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.
3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd
System ddosbarthu yw system Dewey Decimal a ddefnyddir gan lyfrgelloedd i drefnu llyfrau yn ôl pwnc. Rhoddir rhif nod silff i bob llyfr, ac fe’i rhoddir ar feingefn y llyfr a'i drefnu yn nhrefn rifiadol.
Ar ôl y rhifau, mae yna dair llythyren sy'n cyfeirio at awdur neu olygydd y llyfr ac sydd yn nhrefn yr wyddor.
Dyma rai nodau silff allweddol ar gyfer eich maes pwnc.
333.7 | Cyfoeth naturiol |
338.2 | Economeg echdynnu mwynau |
344.20446 | Cyfraith amgylcheddol |
550 | Gwyddorau daear |
526.9 | Tirfesur |
551 | Daeareg |
551.41 | Geomorffoleg |
551.5 | Meteoroleg |
551.6 | Hinsawdd |
551.9 | Geocemeg |
552 | Petroleg |
552.5 | Gwaddodion |
553 | Economic geology |
554-559 | Regional geology |
560 | Palaeontology |
621.3678 | Daeareg economaidd |
622 | Mwyngloddio |
631.64 | Adfywiad |
634.956 | Ailstrwythuro |
910.02 | Daearyddiaeth Ffisegol |
A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?
Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.