Skip to Main Content

Rheoli Lletygarwch: Dod o hyd i Lyfrau

This guide is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

Nodau Silff

302.35 Ymddygiad trefniadaethol
338.19 Cynaliadwyedd y Diwydiant Bwyd
338.47

Diwydiannau gwasanaeth

647.9  Rheoli lletygarwch
658.4012

Cynllunio busnes a strategaeth

658.407

Rheolaeth personél

658.8  Marchnata
658.812

Gwasanaeth cwsmer

658.8342

Ymddygiad defnyddwyr

659.2 Cysylltiadau cyhoeddus

Teitl Dan Sylw

Gwneud ymchwil? Cymerwch olwg ar ein canllaw adolygu llenyddiaeth

Literature Reviews

Mae'r canllaw hwn yn gyflwyniad i'r broses Adolygu Llenyddiaeth gan gynnwys ei bwrpas a'i strategaethau, ei ganllawiau a'i adnoddau.

FINDit

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

llyfrau defnyddiol

Strategaethau Darllen

Wrth ddarllen at ddibenion astudio mae yna rai strategaethau darllen defnyddiol a all eich helpu i ddeall a chadw gwybodaeth ac ymgysylltu'n weithredol â'r testun. Mae'r darllen a wnewch yn y Brifysgol yn wahanol iawn i ddarllen nofel er pleser, defnyddiwch y strategaethau hyn i wella'ch dysgu a'ch graddau.

Sgilliau Academaidd i Fyfyrwyr Busnes

Edrychwch ar y rhestr ddarllen hon am amrywiaeth o'r adnoddau gorau ar sgiliau busnes academaidd.

Mae'n cynnwys adnoddau i helpu gydag ymchwil, ysgrifennu academaidd, meddwl beirniadol, darllen, cyflogadwyedd, cyfeirnodi, cynlluniau busnes a llawer mwy.

Lyfrau Dulliau Ymchwil Mewn Cronfeydd Dat

SAGE Research Methods yw'r llyfrgell dulliau gorau posib gyda mwy na 1000 o lyfrau, gweithiau cyfeirio, erthyglau cyfnodolion, a fideos cyfarwyddyd gan academyddion blaenllaw o bob rhan o'r gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys y casgliad mwyaf o lyfrau dulliau ansoddol sydd ar gael ar-lein gan unrhyw gyhoeddwr ysgolheigaidd.

Awgrymu Llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad llyfrgell

  • A oes llyfr a fyddai'n gwneud ychwanegiad defnyddiol i'n llyfrgell?   
  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarllen diddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?  
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o lyfr pwysig? 

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo.