Skip to Main Content
It looks like you're using Internet Explorer 11 or older. This website works best with modern browsers such as the latest versions of Chrome, Firefox, Safari, and Edge. If you continue with this browser, you may see unexpected results.

Rheoli Lletygarwch: Dod o hyd i erthyglau

This guide is also available in English

Beth yw cyfnodolyn?

Mae cyfnodolion yn gyhoeddiadau sy'n cael eu cyhoeddi'n rheolaidd ac yn barhaus, er enghraifft, yn wythnosol, bob mis, bob chwarter neu bob blwyddyn. Maent yn cynnwys detholiad o erthyglau mewn maes pwnc gan wahanol awduron.

Gelwir yr erthyglau hyn yn erthyglau cyfnodolion. Ysgrifennir erthyglau cyfnodolion academaidd gan ymchwilwyr ac adolygir eu herthyglau gan arbenigwyr eraill yn yr un maes pwnc, mewn proses o'r enw adolygiad cymheiriaid. Ystyrir mai erthyglau cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid yw'r erthyglau cyfnodolion o'r ansawdd gorau sydd ar gael. Erthyglau cyfnodolion yw'r lle gorau i ddod o hyd i'r ymchwil ddiweddaraf ar bwnc.

Chwilio am erthygl mewn cyfnodolyn?

  1. Os hoffech ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion ar bwnc, ceisiwch chwilio yn ôl allweddair gan ddefnyddio Chwiliad Uwch yn FINDit.
  2. Gallwch bori trwy gyfnodolyn penodol trwy'r darganfyddwr cyfnodolion. Mae'r porwr cyfnodolion hwn yn caniatáu ichi archwilio casgliadau cyfnodolion yn ôl pwnc.
  3. Ceisiwch fynd yn uniongyrchol i gronfa ddata arbenigol i gael canlyniadau sy'n canolbwyntio ar faes pwnc.
  4. Os ydych wedi dod o hyd i erthygl nad ydym yn darparu mynediad iddi, gallwch ofyn amdani gan lyfrgell arall.


 

Cronfeydd Data Allweddol

Cronfeydd data allweddol Y ffordd hawsaf o ddod o hyd i erthyglau yw trwy ddefnyddio cronfa ddata briodol. Gallwch chwilio yn ôl pwnc / allweddair, awdur, teitl, ac ati, i gael manylion o ble y gellir dod o hyd i erthyglau a phapurau. Mae'r manteision yn cynnwys y gallu i chwilio nifer o flynyddoedd gyda'i gilydd; mwy o grynodebau a chrynoadau, ac yn aml ceir mynediad uniongyrchol i'r testun llawn. Dyma rai o'r cronfeydd data pwysicaf ar gyfer dod o hyd i wybodaeth am eich pwnc:

 

I weld yr holl gronfeydd data busnes y mae gennych fynediad iddynt, edrychwch ar ein rhestr cronfa ddata A-Z.

Ymchwil Marchnad

Cyfnodolion Allweddol

Cyhoeddir cyfnodolion (a elwir hefyd yn gylchgronau neu gyfresi) yn rheolaidd (er enghraifft, yn wythnosol neu'n fisol). Mae pob rhifyn o gyfnodolion yn cynnwys nifer o erthyglau a ysgrifennwyd gan wahanol awduron. Mae cyfnodolion yn amrywio o ran ansawdd ac enw da: ystyrir bod cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid o ansawdd uwch. Dyma rai enghreifftiau o gyfnodolion sydd ar gael i chi bori ar-lein:

International Journal of Hospitality Management
International Journal of Contemporary Hospitality Management
Journal of Hospitality and Tourism Management
International Journal of Culture, Tourism and Hospitality Research
Management Decision
Management Quarterly
Managing Service Quality
Journal of Marketing Management
Journal of organizational behaviour

Dim ond ychydig o'r teitlau sydd ar gael yw'r rhain. Defnyddiwch FINDit i ddarganfod mwy.

FINDit

Mae FINDit yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.
 

 

 

Mewn Mannau Eraill ar y We

Paparau Newydd

Chwilio archifau papurau newydd cenedlaethol a lleol y DU drwy ddefnyddio unrhyw un o'r adnoddau canlynol:

Newyddion rheolaeth lletygarwch

Loading ...

Google Scholar

Mae Google Scholar yn ffordd wych o chwilio am wybodaeth ac mae'n atodiad defnyddiol i chwiliadau cronfa ddata. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Cymorth.

Google Scholar Search