Skip to Main Content

Therapi chwarae: Dod o hyd i Lyfrau

Canllaw i fyfyrwyr sy'n astudio Therapi Chwarae ym Mhrifysgol De Cymru.
This page is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

Nodua Silff

Chwiliwch am y rhifau hyn ar y silffoedd i ddod o hyd i lyfrau ar y pynciau canlynol.

Chwilio FINDit i ddod o hyd i deitlau llyfrau penodol neu ddod o hyd i lyfrau ar bynciau eraill. 

155.1952 Seicdreiddwyr
155 Seicoleg datblygiad
155.4 Seicoleg plant
155.418 Chwarae
305.231 Datblygiad plant
361.06 Cynghori
362.7 Gwasanaethau i blant
616.8914 Seicotherapi
616.891523 Therapi drama
616.8916 Therapïau creadigol
616.891653 Therapi chwarae
616.891654 Therapi cerdd
616.891656 Therapi celf
616.8917 Seicdreiddiad
618.928914 Seicotherapi plant a’r glasoed
618.92891653 Therapi chwarae gyda phlant 

Argymell llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad Llyfrgell


A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?

  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarlleniad hynod ddiddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o werslyfr pwysig?
  • Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo

Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.

FinditĀ 

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

eLyfrau

Mae gan y Llyfrgell fynediad i amrywiaeth eang o e-lyfrau ar draws pob maes pwnc, mae'r rhain yn rhai y gellir eu darganfod ac yn hygyrch trwy FINDit. Teipiwch eich geiriau allweddol neu deitl yn y blwch chwilio a dewis chwilio 'Libraries.'

Nesaf, mireiniwch eich chwiliad i 'Testen Llawn Arlein' ar ochr chwith y canlyniadau chwilio.

 

 

Pan fyddwch wedi dod o hyd i lyfr yr hoffech ei ddarllen yna cliciwch ar y teitl a'i gyrchu trwy'r ddolen 'Gweld'.


Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein Canllaw e-lyfrau.