Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.
1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.
2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.
3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd
Chwiliwch am y rhifau hyn ar y silffoedd i ddod o hyd i lyfrau ar y pynciau canlynol.
Chwilio Findit i ddod o hyd i deitlau llyfrau penodol neu ddod o hyd i lyfrau ar bynciau eraill.
Chwiliwch am y rhifau hyn ar y silffoedd i ddod o hyd i lyfrau ar y pynciau canlynol.
Chwilio FINDit i ddod o hyd i deitlau llyfrau penodol neu ddod o hyd i lyfrau ar bynciau eraill.
155 | Seicoleg datblygiad | |
174.9362 | Gwaith cymdeithasol Moeseg | |
300.72 | Duliau ymchwil cymdeithasol | |
301 | Cymdeithaseg | |
305.231 | Datblygiad plant | |
344.2043 | Cyfraith gwaith cymdeithasol | |
344.20615 | Cyfraith teulu | |
361.3 | Gwaith cymdeithasol | |
361.32 | Ymarfer gwaith cymdeithasol | |
361.61 | Polisi cymdeithasol | |
361.65 | Lles cymdeithasol | |
362 | Problemau a gwasanaethau lles cymdeithasol | |
362.2 | Iechyd meddwl | |
362.5 | Tlodi | |
362.7 | Gwasanaethau i blant | |
362.76 | Diogelu plant | |
362.82 | Gwasanaethau i deuluoedd | |
364 | Cyfiawnder troseddol |
Mae gan y Llyfrgell fynediad i amrywiaeth eang o e-lyfrau ar draws pob maes pwnc, mae'r rhain yn rhai y gellir eu darganfod ac yn hygyrch trwy FINDit. Teipiwch eich geiriau allweddol neu deitl yn y blwch chwilio a dewis chwilio 'Libraries.'
Nesaf, mireiniwch eich chwiliad i 'Testen Llawn Arlein' ar ochr chwith y canlyniadau chwilio.
Pan fyddwch wedi dod o hyd i lyfr yr hoffech ei ddarllen yna cliciwch ar y teitl a'i gyrchu trwy'r ddolen 'Gweld'.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein Canllaw e-lyfrau.
A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?
Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.