Skip to Main Content

Cymdeithaseg: Dod o hyd i Lyfrau

Canllaw i fyfyrwyr sy'n astudio Cymdeithaseg ym Mhrifysgol De Cymru.
This guide is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

Nodau silff

Gallwch bori drwy'r casgliad gan ddefnyddio'r marciau silff isod:

300.72 Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol
301 Cymdeithaseg
301.01 Damcaniaethau Cymdeithasegol
301.2 Anthropoleg
302 Seicoleg gymdeithasol
302.23 Diwylliant poblogaidd
303.3 Strwythur Cymdeithasol
305 Grwpiau cymdeithasol
305.23 Plant
305.26 Pobl hŷn
305.42   Ffeministiaeth
305.5 Dosberthiadau cymdeithasol
305.8 Hil, Grwpiau Ethnig a Chenedlaethol
306 Diwylliant a sefydliadau
306.7 Rhywioldebau
306.85 Teuluoedd
307.76 Dinasoedd
320 Gwyddor wleidyddol
323 Hawliau Dynol
330 Economeg
361.61 Polisi cymdeithasol
364 Troseddeg

 

Defnyddiwch FINDit: Chwilio/Llyfrgelloedd, i wneud chwiliadau manwl ar gyfer llyfrau unigol neu ar gyfer deunydd sy'n berthnasol i'ch testun neu bwnc.

 

Awgrymu llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad llyfrgell

  • A oes llyfr a fyddai'n gwneud ychwanegiad defnyddiol i'n llyfrgell?   
  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarllen diddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?  
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o lyfr pwysig? 

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo.