Skip to Main Content

Mathau o aseiniadau

Bydd y canllaw hwn yn esbonio'r mathau o aseiniadau sydd eu hangen ym Mhrifysgol De Cymru (PDC). This guide is also available in English

Deall eich aseiniadau

Mae nifer o fathau o aseiniadau y gellir gofyn i chi eu cynhyrchu yn y brifysgol. Gallent fod yn ysgrifenedig, ar lafar neu’n weledol ond mae iddynt oll yr un pwrpas sylfaenol, sef caniatáu ichi ddangos eich gallu i:

  • Ymchwilio i bwnc
  • Trefnu’r ymchwil a'r dystiolaeth yn ddarn o waith strwythuredig
  • Dangos eich dealltwriaeth a'ch gwybodaeth o'r pwnc

Briff yr aseiniad:

  • Gwirio unrhyw ddeilliannau dysgu, meini prawf marcio, gwybodaeth cyfrif geiriau cyn i chi ddechrau.
  • Gwneud yn siŵr eich bod yn deall y math o aseiniad y disgwylir i chi ei gynhyrchu. A yw'n aseiniad ysgrifenedig fel traethawd neu asesiad sy'n cynnwys elfen ymarferol, weledol, fel cyflwyniad poster?
  • Mae deall beth mae'r aseiniad yn gofyn i chi ei wneud yn allweddol. Daw llawer o aseiniadau ar ffurf cyfarwyddyd, gorchymyn neu dasg. Mae'n hanfodol eich bod yn deall y gwahaniaeth rhwng y geiriau hyn cyn i chi ddechrau. Gweler rhai dolenni i derminoleg yn y rhestr cyfeirio isod.
  • Nodi’r testun, trwy amlygu'r allweddeiriau yn yr aseiniad. Bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio ar y prif elfennau ac yn helpu gyda'ch strwythur a'ch ymchwil.
  • Nodi unrhyw eiriau cyfyngu a allai fod yn y briff, mae’r rhain yn eiriau a fydd yn gosod cyfyngiadau ar eich aseiniad e.e. mae'r pwnc wedi'i gyfyngu i'r DU neu gyfnod penodol o amser.
Cyfeiriadau:

Prifysgol Bangor. (2020) Esbonio termau traethodau. Ar gael yn: https://www.bangor.ac.uk/studyskills/study-guides/essay-terms.php.cy (Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2022)

McMillan, K. & Weyers, J. D. B. (2011) How to write essays & assignments. 2nd ed. Harlow: Pearson.

Staffordshire University. (2020) Terms and definitions. Ar gael yn: https://libguides.staffs.ac.uk/ld.php?content_id=4834785 (Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2022).

Dechrau aseiniad

Unwaith y byddwch wedi gweithio allan yr hyn y gofynnir i chi ei wneud (gweler uchod), yna mae angen i chi:

  • Caniatáu digon o amser i wneud yr ymchwil, cynllunio'r aseiniad a'i ysgrifennu. Gwiriwch lawlyfr eich cwrs am y dyddiad cyflwyno, er mwyn i chi allu amcangyfrif faint o amser sydd gennych i gwblhau'r gwaith tra'n ystyried gwaith arall ar gyfer modiwlau eraill neu ymrwymiadau eraill prifysgol, teulu neu waith gwirfoddol/cyflogedig.
  • Chwilio am wybodaeth a phenderfynu beth sy'n berthnasol tra'n cadw cofnod o'r ffynonellau yr ydych wedi dod o hyd iddynt ar gyfer eich rhestr gyfeirio. Peidiwch ag anghofio'r wybodaeth sydd gennych eisoes, o'ch darlithoedd neu seminarau. Peidiwch ag anghofio rhestr darllen y modiwl hefyd.
  • Mae darllen a gwneud nodiadau yn rhan hanfodol o'r broses ymchwil. Nid oes unrhyw ddull cywir neu anghywir, dim ond un sy'n addas i chi. Mae gwneud nodiadau yn broses ddysgu ynddo'i hun, gan ei fod yn eich helpu i ddeall yr hyn yr ydych yn ei ddarllen ac yn gwneud ichi ganolbwyntio ar y wybodaeth bwysig.
  • Mae darllen a chymryd nodiadau hefyd yn creu syniadau a chysylltiadau sy'n helpu i greu cynllun.
  • Drafftio ac ysgrifennu yw'r man lle rydych chi'n dechrau rhoi eich cynllun ar waith ac yn rhoi eich meddyliau at ei gilydd yn fras. Dyma lle rydych chi'n dechrau gwneud eich dadl, gweithio allan eich syniadau a threfnu eich meddyliau. Pan fydd gennych ddrafft bras gallwch wneud eich diwygiadau, gan ystyried y siâp a'r strwythur, gan sicrhau bod y ddadl yn glir ac yn ateb y briff gwreiddiol.
  • Prawfddarllen a golygu, lle byddwch yn gwirio am wallau sillafu, gramadegol neu ffeithiol. Dyma hefyd lle byddwch yn gwirio bod eich cyfeirnodi yn gyflawn ac yn gywir, gan ddefnyddio'r safon gyfeirio gywir.

Uniondeb Academaidd

Mae osgoi llên-ladrad yn agwedd bwysig ar uniondeb Academaidd. Llên-ladrad yw pan fydd person yn ceisio trosglwyddo gwaith rhywun arall fel ei waith ei hun. Felly, mae'n hanfodol bod gwaith pobl eraill yn cael ei gydnabod a'i gyfeirio'n iawn. 

Mae gan y Brifysgol dudalen gyda gwybodaeth ac Arweiniad ar gamymddwyn academaidd ac uniondeb academaidd, gan gynnwys gwybodaeth am lên-ladrad ac arfer academaidd da.