Skip to Main Content

Mathau o aseiniadau

Bydd y canllaw hwn yn esbonio'r mathau o aseiniadau sydd eu hangen ym Mhrifysgol De Cymru (PDC). This guide is also available in English

Traethodau

Mae traethawd yn ddarn byr (rhwng 2000 a 4000 o eiriau fel arfer) sy'n canolbwyntio ar bwnc, wedi'i strwythuro mewn tair adran fel arfer:

  • cyflwyniad lle mae'r cwestiwn neu gwestiynau i'w hateb a'r strwythur wedi'u gosod, gan gynnwys unrhyw ffiniau; mae’r adran hon hefyd yn cynnig sail resymegol: mewn geiriau eraill, mae’n dweud wrth y darllenydd pam mae’r cwestiwn penodol hwnnw’n cael ei ofyn ac unrhyw gefndir,
  • y prif gorff, wedi'i rannu'n themâu sy'n ateb y cwestiynau a osodwyd yn y cyflwyniad,
  • casgliad, gyda chasgliadau terfynol, cyfyngiadau, ac unrhyw waith arfaethedig yn y dyfodol.

Mae rhai o elfennau pwysicaf ysgrifennu traethodau yn dda yn cynnwys:

  • presenoldeb tystiolaeth;
  • trachywiredd;
  • llif, fel bod syniadau'n symud o un paragraff i'r nesaf;
  • mae pob paragraff yn dechrau gyda brawddeg testun;
  • prawfddarllen.

 

Rhai adnoddau defnyddiol:

 

Adroddiadau

Mae adroddiad yn ddarn o ysgrifennu sy'n canolbwyntio ar gyflwyno ffeithiau a ffigurau tra bod traethodau'n canolbwyntio ar drafod dadleuon a chyflwyno safbwyntiau gwrthgyferbyniol. Yn ogystal, mae gan adroddiadau dabl cynnwys ac maent wedi'u trefnu'n adrannau ac isadrannau wedi'u rhifo.

Mae strwythur adroddiad yn dibynnu i raddau helaeth ar ei themâu, ond mae’r templed cyffredinol hwn yn cael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o adroddiadau:

  • Tabl cynnwys
  • Abstract or Executive summary Crynodeb neu grynodeb gweithredol
  • Mae'r Cyflwyniad yn disgrifio pwrpas adroddiad, yn cynnig rhesymeg (h.y., pam ei fod yn angenrheidiol) ac yn nodi ei nodau a'i amcanion
  • Mae'r Adolygiad Llenyddiaeth yn cynnig crynodeb a gwerthusiad beirniadol o lenyddiaeth berthnasol
  • Mae'r Dulliau neu'r Fethodoleg yn disgrifio ac yn cyfiawnhau sut y casglwyd data
  • Mae'r adran Canlyniadau neu Ganfyddiadau yn cyflwyno'r data
  • Yn y Drafodaeth, caiff y canlyniadau eu dadansoddi a'u trafod.
  • Mae'r Casgliad yn cynnig crynodeb o'r adroddiad, yn enwedig mewn perthynas â'r nodau a'r amcanion. Gallai hefyd gynnwys trafodaeth ar gyfyngiadau ac argymhellion ar gyfer gwaith yn y dyfodol
  • Atodiadau gyda gwybodaeth ychwanegol
  • Cyfeiriad

 

Rhai adnoddau defnyddiol:

Traethodau myfyriol

Mae traethawd myfyriol yn cynnwys darn o ysgrifennu gyda myfyrdodau ar ddigwyddiad, gweithgaredd neu hyd yn oed brosiect gwaith. Maent yn elfen hanfodol mewn portffolios ymarfer neu adroddiadau lleoliad gwaith.

Mewn traethodau myfyriol, mae adrannau disgrifiadol (beth, pwy, ble, pryd) yn gosod y cefndir ac yn egluro beth oedd y digwyddiad neu brofiad. Fodd bynnag, ar gyfer y math hwn o draethodau, dylai’r rhan fwyaf o adrannau anelu at ateb sut a pham y digwyddodd rhywbeth: maent yn cynnwys myfyrio ar pam aeth rhywbeth yn dda neu’n anghywir, pa ddysgu a ddigwyddodd yn ystod y profiad a beth allai gael ei wneud yn wahanol y tro nesaf.

Mae'r rhain yn fodelau adnabyddus ar gyfer ysgrifennu myfyriol:

 

Rhai adnoddau defnyddiol:
 

Astudiaethau Achos

Mae astudiaeth achos yn ddadansoddiad ffocysedig o berson, sefydliad, grŵp neu ddigwyddiad. Yr agwedd bwysicaf ar astudiaethau achos yw eu bod yn cael eu llywio gan ddamcaniaeth ac yn nodi argymhellion ar gyfer atebion a gwelliannau.

Mae astudiaeth achos fel arfer yn cynnwys:

  • Disgrifiad o'r ffeithiau;
  • rhestr o ddigwyddiadau;
  • rhestr o'r bobl sy'n ymwneud â'r achos;
  • y prif faterion sy'n ymwneud â'r achos hwn;
  • cysylltiadau â damcaniaethau (er enghraifft, damcaniaethau sefydliadol neu arweinyddiaeth);
  • datrysiadau.

 

Rhai adnoddau defnyddiol: