Skip to Main Content

Ynglŷn â BoB - Teledu a radio ar alw ar gyfer addysg (Dysgu ar Sgrîn)

Y gwasanaeth teledu a radio ar alw ar gyfer addysg. This guide is also available in English.

Chwilio am raglenni hanesyddol ar BoB

Mae dod o hyd i'r rhaglenni hynaf sydd ar gael ar BoB yn hawdd. Teipiwch * (seren) i'r blwch chwilio. Pan fydd y canlyniadau'n cael eu harddangos, trefnwch yn ôl Oldest.

Bydd hyn yn dangos y rhaglenni hynaf sydd ar gael gan gynnwys detholiad o gynyrchiadau gwreiddiol y BBC o Shakespeare o'r 1950au.  

Archif y BBC ar BoB

Mae’n bosibl mai archif y BBC yw casgliad mwyaf arwyddocaol darlledu byd-eang o asedau teledu a radio, ac mae ar gael ar BoB. Mae'n cynnwys miliynau o raglenni teledu a radio, gan gynnwys digwyddiadau diwylliannol mawr, dramâu eiconig a rhaglenni nodedig eraill. Rhai enghreifftiau o'r cynnwys yw:

Archifau ar BoB

Mae gan BoB nifer o recordiadau teledu a roddwyd gan Brifysgolion a chasgliadau unigol sy'n rhoi mynediad i recordiadau hen o'r 1980au a'r 1990au.