Cymerwch gip ar ein tudalen Sgiliau llyfrgell a fydd yn eich cyfeirio at yr holl wybodaeth help a chymorth sydd ar gael gan Gwasanaethau Llyfrgell.
Dyma'r lle i ddarganfod mwy am y sesiynau sgiliau Llyfrgell sydd ar gael i bob myfyriwr yn PDC:
1. Sgiliau llyfrgell: cychwyn arni - sesiwn wedi'i hanelu at fyfyrwyr sy'n newydd i PDC.
2. Sgiliau llyfrgell: y cam nesaf - sesiwn gyda'r nod o baratoi myfyrwyr ar gyfer ymgymryd â darn sylweddol o ymchwil unigol, fel traethawd estynedig.
Neu rhowch gynnig ar ein canllaw Sgiliau llyfrgell a fydd yn eich rhoi ar ben ffordd, gyda'r pethau sylfaenol fel dod o hyd i lyfr, erthygl neu gyfnodolyn.
Os oes angen cymorth unigol arnoch, gallwch drefnu apwyntiad gyda’ch Llyfrgellydd Cyfadran neu gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth sgwrsio 24/7 i gael ymateb cyflym i'ch cwestiwn.
Gellir dod o hyd i ganllawiau PDC ar y dudalen Canllawiau Cyfeirio:
Yr eithriadau yw:
Cymorth pellach
Os hoffech gael canllaw mwy cynhwysfawr ar gyfeirio, bydd yr e-lyfr isod yn helpu gyda'r holl arddulliau a restrir uchod.
Gallwch hefyd wneud apwyntiad gyda thiwtor sgiliau astudio.
Mae'r canllaw hwn yn gyflwyniad i'r broses Adolygu Llenyddiaeth gan gynnwys ei bwrpas a'i strategaethau, ei ganllawiau a'i adnoddau.