Skip to Main Content

Chwilio / Searching: Cymraeg

Cyn i chi ddechrau

Bydd canlyniadau unrhyw chwiliad erthygl yn dibynnu ar ansawdd eich geiriau allweddol. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer adnabod geiriau allweddol:

  • Peidiwch â theipio teitl eich aseiniad cyfan.
  • Dewiswch y geiriau pwysig o'ch teitl.
  • Anwybyddwch eiriau cyfarwyddiadol fel ‘analyse’, ‘discuss’…
  • Anwybyddwch eiriau fel ‘does’, ‘in’, ‘to’, ‘of’, sy’n iawn mewn brawddeg ond na fyddant yn ddigon penodol mewn chwiliad.
  • Taflwch syniadau am eich geiriau allweddol; meddyliwch am ddewisiadau amgen, termau ehangach, termau culach, acronymau, cyfystyron a sillafiadau gwahanol. Gall Thesawrws fod yn ddefnyddiol ar gyfer hyn.
  • Mae cael detholiad o eiriau allweddol yn fan cychwyn gwych.

Wrth chwilio am erthyglau cyfnodolion mae'n bwysig eich bod wedi gwneud rhywfaint o ddarllen cefndirol i gael dealltwriaeth sylfaenol o'r pwnc. Heb hyn efallai y byddwch yn ei chael hi'n anodd adnabod geiriau allweddol, darllen erthyglau cyfnodolion, ac ysgrifennu eich cyflwyniad. Mae erthyglau cyfnodolion yn  llawer mwy ffocysedig na llyfrau ac fel arfer nid ydynt mor hawdd i'w darllen.

Os yw'ch pwnc yn eang iawn, yna efallai y bydd eich canlyniadau chwilio yn llethol i chi. Os ydych eisoes wedi gwneud rhywfaint o ddarllen cefndirol a bod gennych syniad o'r hyn y byddwch yn ei ysgrifennu, weithiau gall fod yn haws rhannu'ch chwiliadau yn dalpiau hylaw.

 

Cyn i chi wneud eich prif chwiliad ffocysedig am erthyglau cyfnodolion efallai y byddwch am ystyried rhywfaint o chwilio allweddeiriau ehangach. Mae chwiliad erthygl FINDit yn berffaith ar gyfer hyn gan ei fod yn croes-chwilio ystod eang o adnoddau ar draws ystod o feysydd pwnc.

Cyn i chi wneud eich prif chwiliad ffocysedig am erthyglau cyfnodolion efallai y byddwch am ystyried rhywfaint o chwilio allweddeiriau ehangach. Mae chwiliad erthygl FINDit yn berffaith ar gyfer hyn gan ei fod yn croes-chwilio ystod eang o adnoddau ar draws ystod o feysydd pwnc.

 

Technegau chwilio


Mae cysylltu geiriau gan ddefnyddio A/AC yn dweud wrth y peiriant chwilio i chwilio am ganlyniadau sy'n cynnwys y ddau air allweddol. Caerdydd ac Y Bae.

Mae cysylltu geiriau gan ddefnyddio NEU yn dweud wrth y peiriant chwilio i chwilio am ganlyniadau sy'n cynnwys y naill neu'r llall o'r geiriau allweddol.

Mae cysylltu geiriau gan ddefnyddio NID yn dweud wrth y peiriant chwilio i chwilio am ganlyniadau sy'n cynnwys un o'ch allweddair ond nid y llall.

Searching techniques

Os oes gan air fwy nag un terfyniad posibl, gallwch gyfarwyddo cronfa ddata i chwilio am bob un ohonynt trwy ddefnyddio cwtogi.

Fel hyn nid oes rhaid i chi chwilio amdanynt i gyd yn unigol.

Cymerwch goesyn eich gair ac yna ychwanegwch y symbol cwtogi. Dyma'r * fel arfer ond mae'n amrywio o gronfa ddata i gronfa ddata, felly gwiriwch y cymorth lle bynnag rydych chi'n chwilio.

Enghreifftiau:

Prevent*

Prevent

Music*

Music

Prevented

Musician

Preventing

Musical

Prevention

Musicality

I chwilio am eiriau fel ymadrodd, rhowch nhw mewn dyfynodau. Bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i'r ymadrodd fod yn union fel y nodir yn y dyfynodau yn hytrach na chwilio am bob gair yn annibynnol o fewn y ddogfen.

Enghreifftiau:

"Social media"

"Type 2 diabetes"

"Strength training"

"Public Health"

Mae chwilio agos at yn gadael i chi benderfynu pa mor agos at ei gilydd y mae angen i'ch termau chwilio fod o fewn erthygl. Mae hyn yn ddefnyddiol pan fo amrywiaeth yn y modd y gellir ysgrifennu pethau. Er enghraifft, gellid ysgrifennu "pain management” hefyd fel 'managing pain' neu 'management of pain' neu 'pain being managed’ a byddai chwilio ymadrodd yn methu pob un o'r rhain.

Mae technegau chwilio agos at yn amrywio rhwng cronfeydd data felly gwiriwch gymorth y gronfa ddata rydych chi'n ei defnyddio i wybod sut i wneud chwiliad agos at a gwiriwch fod y gronfa ddata rydych chi'n ei defnyddio yn eu cefnogi. Mae fel arfer yn defnyddio N neu W a rhif o fewn y geiriau.

Enghreifftiau:

Pain N3 Management

Pain o fewn 3 gair i Management

Theatre N2 Director

Theatre o fewn 2 gair i Director

Biodegradable N4 Packaging

Biodegradable o fewn 4 gair i Packaging