Croeso i'r canllaw i fyfyrwyr a staff sydd wedi'u lleoli yng ngholegau a sefydliadau partner Prifysgol De Cymru (PDC).
Os ydych yn astudio ar gyfer cymhwyster PDC mewn coleg neu sefydliad partner, bydd y canllaw hwn yn eich cyfeirio at yr adnoddau helaeth sydd ar gael i chi o Lyfrgell PDC ac yn rhoi gwybodaeth am sut i gael mynediad atynt.
Bydd llyfrgell eich coleg yn darparu eich adnoddau cwrs hanfodol a bydd y staff yno yn rhoi arweiniad arbenigol i chi i'ch helpu i wneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael i chi. Fel myfyrwyr sy’n dilyn cwrs PDC, mae gennych hawl i ddefnyddio ein hadnoddau ar-lein ac i ymweld â ni yn bersonol i fenthyg llyfrau o unrhyw un o’n llyfrgelloedd campws. Os ydych chi'n byw neu'n gweithio'n agos i un o gampysau PDC, mae croeso i chi ddefnyddio cyfleusterau'r llyfrgell at ddibenion astudio.
Os ydych yn aelod o staff mewn coleg neu sefydliad partner sy’n darlithio neu’n cefnogi myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau Prifysgol De Cymru, bydd y canllaw hwn yn dweud wrthych sut i gael mynediad i Lyfrgell PDC, yn rhoi trosolwg o’r adnoddau sydd ar gael ac yn rhoi gwybod i chi am yr arweiniad a'r cymorth sydd ar gael i chi.
Mae gennym raglen wych o ddigwyddiadau eleni. Mae digwyddiadau'n amrywio o ddosbarthiadau llyfrgell a sgiliau astudio i sgyrsiau awduron, sesiynau hyfforddiant cronfa ddata, a llawer mwy. Ymunwch â ni!