Fel myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru gallwch lawrlwytho amrywiaeth o feddalwedd yn rhad ac am ddim i'ch dyfeisiau eich hun.
Mae hyn yn cynnwys:
Mae gennym raglen wych o ddigwyddiadau eleni. Mae digwyddiadau'n amrywio o ddosbarthiadau llyfrgell a sgiliau astudio i sgyrsiau awduron, sesiynau hyfforddiant cronfa ddata, a llawer mwy. Ymunwch â ni!
Os ydych ar gwrs masnachfraint PDC yn un o'n colegau partner mae croeso i chi ddefnyddio ein llyfrgelloedd ffisegol ac ar-lein. Bydd llyfrgell eich coleg cartref yn darparu'r holl adnoddau argaffu sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs. Mae gennych hefyd fynediad i ystod eang o e-lyfrau ac adnoddau ar-lein Llyfrgell y Brifysgol.
Dyma'r atebion i rai cwestiynau allweddol. Os oes gennych gwestiynau pellach defnyddiwch wasaneath sgwrsio y Llyfrgell neu cysylltwch â ni.
Fel myfyriwr mewn sefydliad partner sy'n astudio cwrs achrededig PDC bydd gennych gyfrif TG PDC.
I gael mynediad i adnoddau ar-lein Llyfrgell PDC bydd angen i chi ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair PDC.
Bydd eich enw defnyddiwr, sef eich cyfeiriad e-bost PDC a chyfrinair dros dro yn cael eu darparu yn eich e-bost cofrestru.
Cyfeiriad e-bost: 12345678@students.southwales.ac.uk
Cyfrinair: (TBydd hwn yn 15 nod os nad ydych wedi ei osod o'r blaen)
Mae'r weithdrefn sefydlu yn cynwys ychwanegu dau o'r canlynol: eich rhif ffôn symudol, cyfeiriad e-bost personol neu gwblhau set o gwestiynau diogelwch.
Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan Gwasnaethau TG.
I gael mynediad i'r holl gyfleusterau llyfrgell ar-lein bydd angen i chi sefydlu'ch cyfrif TG.
Rydym wedi cynyddu diogelwch eich cyfrif myfyriwr TG PDC. Mae hyn yn cynnwys galluogi Ailosod Cyfrinair Hunanwasanaeth (SSPR) a Dilysu Aml-Ffactor (MFA) gan ddarparu amddiffyniad ychwanegol i'ch cyfrif TG, i gael manylion ar sut i sefydlu'ch cyfrif ewch i IT Induction.
Cymorth a Chefnogaeth
Gofynnwch wrth y Ddesg Ardal Gynghori yn y llyfrgell os oes angen help arnoch gyda TG.
Gallwch hefyd gysylltu â TG yn uniongyrchol.
Ffôn: 01443 482882
Gwefan: https://its.southwales.ac.uk/cymraeg/
Gelwir y rhwydwaith WiFi yn eduroam.
Rhwydwaith WiFi rhyngwladol yw eduroam a ddefnyddir o amgylch sefydliadau academaidd ac ymchwil.
I gysylltu ag eduroam dilynwch y cyfarwyddiadau hyn.
Argraffu, llungopïo a sganio
Mae eich cyfrif argraffu yn cael ei greu yn awtomatig fel rhan o'ch cyfrif TG Myfyriwr.
Gallwch ychwanegu credyd at eich cyfrif yn siop argraffu Trefoest neu ar-lein.
Gallwch hefyd argraffu o'ch dyfeisiau eich hun.
Taliadau Argraffu
5c – A4 du a gwyn
10c – A3 du a gwyn
20c – lliw A4
40c – lliw A3
Mae sganio am ddim
Dysgwch fwy ar wefan Argraffu a Dylunio PDC.