Gall myfyrwyr sydd wedi'u lleoli mewn sefydliadau partner gael mynediad i lawer o e-adnoddau'r Brifysgol, lle caniateir hynny o dan gytundebau trwyddedu. Rydym yn darparu ystod eang o ddeunydd electronig gan gynnwys e-Gyfnodolion, e-Newyddion ac e-cronfeydddata; gellir defnyddio'r adnoddau hyn ar y campws ac oddi arno.
Defnyddiwch FINDit, ein chwiliad syml un stop i ddod o hyd i'r adnoddau electronig sydd eu hangen arnoch.
Staff yn eich coleg eich hun fydd y prif ffynhonnell cymorth wrth ddefnyddio FINDit ac e-adnoddau, ond mae gennym ystod o ganllawiau FINDit i helpu (Gweler: Canllawiau a ffilmiau).
Mae 'The Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders' yn cael ei ddefnyddio i wneud diagnosis a dosbarthu anhwylderau meddwl. Mae Llyfrgell DSM-5 yn cynnwys 5ed argraffiad 'The Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders', DSM-5 a DSM-5-TR. Mae hefyd yn cynnwys 'DSM-5 Clinical Cases', 'DSM-5 handbook of differential diagnosis', 'DSM-5 handbook on the cultural formulation interview' a 'Guía de consulta de los criterios diagnósticos del DSM-5'.
Mae Llyfrgell PDC yn tanysgrifio i dros 180 o wahanol gronfeydd data. Ceir rhestr lawn o gronfeydd data ar restr Cronfa Ddata A-Z. Defnyddiwch y gwymplen All Subjects (Pob Pwnc) i ddod o hyd i restrau o gronfeydd data pwnc-benodol.
Chwilio archifau papurau newydd cenedlaethol a lleol y DU drwy ddefnyddio unrhyw un o'r adnoddau canlynol:
Mae BoB ar gael i staff, myfyrwyr ac ymchwilwyr yn PDC..
Nodweddion Allweddol: