Skip to Main Content

Diogelwch Rhyngwladol A Rheoli Risg: Dod o hyd i Lyfrau

This guide is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

Nodau silff

Mae system Degol Dewey yn system ddosbarthu a ddefnyddir gan lyfrgelloedd i drefnu llyfrau fesul pwnc. Rhoddir rhif marc silff i bob llyfr, a osodir ar feingefn y llyfr a'i drefnu mewn trefn rifiadol.

Ar ôl y rhifau, mae tair llythyren sy'n cyfeirio at awdur neu olygydd y llyfr ac sydd yn nhrefn yr wyddor.

 

303.625       Terrorism                         
355.03    National security

Awgrymu llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad llyfrgell

  • A oes llyfr a fyddai'n gwneud ychwanegiad defnyddiol i'n llyfrgell?   
  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarllen diddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?  
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o lyfr pwysig? 

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo.

Findit 

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

eLyfrau mynediad agored

E-lyfrau Mynediad agored

Cyhoeddir nifer cynyddol o e-lyfrau trwy fynediad agored, gan sicrhau eu bod ar gael am ddim ar-lein. Mae gan y llyfrgell ganllaw ar ddod o hyd i e-lyfrau mynediad agored am ddim y gallwch eu cyrchu yma.