Skip to Main Content

Adnoddau Addysgol Agored: Beth yw Adnoddau Addysgol Agored?

Canllaw ar ddod o hyd i adnoddau addysgol agored ar gyfer addysgu a dysgu.
This guide is also available in English

Diffiniad

Open Educational Resources (OER) are learning, teaching and research materials in any format and medium that reside in the public domain or are under copyright that have been released under an open license, that permit no-cost access, re-use, re-purpose, adaptation and redistribution by others.    

(UNESCO, 2019

Jonathasmello, CC BY 3.0 , via Wikimedia Commons

Nodweddion Adnoddau Addysgol Agored

Mae gan adnoddau Addysgol Agored y nodweddion canlynol:

  • Maent yn unrhyw adnoddau y gellir eu defnyddio wrth addysgu, dysgu neu ymchwil gan gynnwys gwerslyfrau, delweddau, fideos, data, meddalwedd, gweithgareddau dysgu, meysydd llafur, cynlluniau gwersi ac asesiadau.
  • Mae ganddyn nhw drwyddedau agored fel y rhai a ddarperir gan Creative Commons
  • Mae trwyddedau agored yn galluogi i adnodd addysgol agored gael ei gadw, ei ddiwygio, ei ailgymysgu, ei ailddefnyddio a'i ailddosbarthu (Wiley, 2019). 

Adnoddau Mynediad Agored

Mae adnoddau mynediad agored yn gysylltiedig ag adnoddau addysgol agored, ond maent yn wahanol. Mae adnoddau mynediad agored yn gyhoeddiadau ymchwil sydd ar gael am ddim i ymgynghori â nhw ac i'w hailddefnyddio mewn rhai achosion (JISC, 2019).  Er y gellir defnyddio adnoddau mynediad agored fel adnoddau dysgu, ni ellir eu hadolygu na'u haddasu fel adnoddau addysgol agored.

OER

 

Mae'r deunydd hwn yn seiliedig ar ysgrifennu gwreiddiol gan David Wiley, a gyhoeddwyd yn rhydd o dan drwydded Creative Commons Attribution 4.0 yn: Diffinio'r "Open" mewn Cynnwys Agored ac Adnoddau Addysgol Agored.

Integreiddio Adnoddau Addysgol Agored i'ch rhestr ddarllen ar-lein

Mae adnoddau addysgol agored a chyhoeddiadau mynediad agored yn darparu ystod eang o adnoddau digidol y gellir eu hymgorffori mewn rhestr ddarllen ar-lein.

Mae mwy o wybodaeth am system Rhestr Ddarllen Ar-lein Aspire ar gael yma.

I gael arweiniad a chymorth i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer eich rhestrau darllen ar-lein, cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Cyfadran.

Pam defnyddio Adnoddau Addysgol Agored?

Mae adnoddau addysgol agored yn cynnig y buddion canlynol mewn addysgu a dysgu:

  • Gwella fforddiadwyedd gwerslyfrau

Gall gwerslyfrau fod yn ddrud iawn i fyfyrwyr a'r brifysgol, yn enwedig os ydyn nhw ar gael fel e-lyfrau. Mae defnyddio llyfrau agored yn lleihau costau i'r myfyriwr a'r brifysgol.

  • Hwyluso dysgu cyfunol ac ar-lein

Mae adnoddau addysgol agored yn darparu adnoddau digidol y gellir eu defnyddio i ddarparu ystod eang o wahanol weithgareddau dysgu mewn amgylchedd dysgu cyfunol neu ar-lein.

  • Galluogi addasu adnoddau dysgu 

Gellir addasu adnoddau addysgol agored i fodloni deilliannau dysgu cyrsiau penodol. Gellir eu haddasu hefyd i fod yn fwy cynrychioliadol o gymdeithas, gan helpu gyda dadwladychu ac i adlewyrchu cyd-destunau penodol fel cyd-destun Cymru. Mae yna hefyd yr opsiwn o'u cyfieithu i'r Gymraeg.

  • Yn dileu'r rhwystrau rhag cyrchu adnoddau dysgu

Mae adnoddau addysgol agored yn darparu mynediad diderfyn i adnoddau ac yn galluogi mynediad cyn ac ar ôl y cwrs.