Skip to Main Content

Gwyddor yr Amgylchedd: Dod o hyd i Lyfrau

This guide is avalilable in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Shelf Marks

 

Mae system Degol Dewey yn system ddosbarthu a ddefnyddir gan lyfrgelloedd i drefnu llyfrau fesul pwnc. Rhoddir rhif marc silff i bob llyfr, a osodir ar feingefn y llyfr a'i drefnu mewn trefn rifiadol. Ar ôl y rhifau, mae tair llythyren sy'n cyfeirio at awdur neu olygydd y llyfr ac sydd yn nhrefn yr wyddor. Dyma rai nodau silff allweddol ar gyfer eich maes pwnc.

Daearyddiaeth

333.7  Datblygu cynaliadwy
333.77  Astudiaethau Trefol
 344.20446  Cyfraith Amgylcheddol
 363.7  Diogelu'r amgylchedd
628.504  Asesiad effaith amgylcheddol
 910.285  Systemau gwybodaeth ddaearyddol

 
Bioleg

333.72  Cadwraeth
570  Gwyddorau Bywyd
 577  Ecoleg

 

Hanes Natur

333.7   

 Gwyddor amgylcheddol

333.72

 Cadwraeth a gwarchodaeth

333.95  Bioleg cadwraeth a bioamrywiaeth
344.20446  Cyfraith amgylcheddol
508  Hanes Natur
551.6   Hinsoddeg
577  Ecoleg
578  Bioddaearyddiaeth
581  Hanes naturiol planhigion
591  Hanes naturiol anifeiliaid
592  Infertebratau
597  Pysgod
598  Adar
599  Mamaliaid
628.5  Rheoli llygredd
634.9 Coedwigaeth

 

Daeareg

333.7   Adnoddau Naturiol
344.20446  Cyfraith Amgylcheddol
550  Gwyddorau Daear
551  Daeareg
551.41  Geomorffoleg
551.48  Hydroleg
551.5  Meteoroleg
551.6  Hinsoddeg
551.9  Geocemeg
621.3678  Synhwyro o bell
622  Mwyngloddio
631.64  Llystyfiant
634.956  Ailgoedwigo

 

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

Argymell llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad Llyfrgell


A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?

  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarlleniad hynod ddiddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o werslyfr pwysig?
  • Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo

Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.

Llyfrau a argymhellir