Skip to Main Content

Gwyddor yr Amgylchedd: Dod o hyd i erthyglau

This guide is avalilable in English

Beth yw cyfnodolyn?

Mae cyfnodolion yn gyhoeddiadau sy'n cael eu cyhoeddi'n rheolaidd ac yn barhaus, er enghraifft, yn wythnosol, bob mis, bob chwarter neu bob blwyddyn. Maent yn cynnwys detholiad o erthyglau mewn maes pwnc gan wahanol awduron.

Gelwir yr erthyglau hyn yn erthyglau cyfnodolion. Ysgrifennir erthyglau cyfnodolion academaidd gan ymchwilwyr ac adolygir eu herthyglau gan arbenigwyr eraill yn yr un maes pwnc, mewn proses o'r enw adolygiad cymheiriaid. Ystyrir mai erthyglau cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid yw'r erthyglau cyfnodolion o'r ansawdd gorau sydd ar gael. Erthyglau cyfnodolion yw'r lle gorau i ddod o hyd i'r ymchwil ddiweddaraf ar bwnc.

Chwilio am erthygl mewn cyfnodolyn?

  1. Os hoffech ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion ar bwnc, ceisiwch chwilio yn ôl allweddair gan ddefnyddio Chwiliad Uwch yn FINDit.
  2. Gallwch bori trwy gyfnodolyn penodol trwy'r darganfyddwr cyfnodolion. Mae'r porwr cyfnodolion hwn yn caniatáu ichi archwilio casgliadau cyfnodolion yn ôl pwnc.
  3. Ceisiwch fynd yn uniongyrchol i gronfa ddata arbenigol i gael canlyniadau sy'n canolbwyntio ar faes pwnc.
  4. Os ydych wedi dod o hyd i erthygl nad ydym yn darparu mynediad iddi, gallwch ofyn amdani gan lyfrgell arall.


 

Websites

Google Scholar

Mae Google Scholar yn ffordd wych o chwilio am wybodaeth ac mae'n atodiad defnyddiol i chwiliadau cronfa ddata.

Google Scholar Search

Teledu BoB a Radio ar-lein

BoB yw Dysgu ar Sgrin ar deledu Ar Alw a gwasanaeth radio ar gyfer addysg sy'n caniatáu i chi recordio a gweld teledu a radio ar-lein o dros 65 o sianeli am ddim gan gynnwys archif o dros 2 filiwn o raglenni.  Gallwch edrych arno  ar y campws neu gartref (y DU yn unig).

  • Recordio teledu a radio yn gyflym ac yn syml
  • Gweld dros 1 miliwn o raglenni ar gael yn yr archif
  • Creu clipiau i'w defnyddio mewn darlithoedd neu eu hanfon at fyfyrwyr
  • Cadw rhestrau chwarae o'ch hoff ddarllediadau a'ch cyfresi
  •  Peidiwch byth â cholli rhaglen gyda byffer o 30 diwrnod

Papurau newydd

Chwilio archifau papurau newydd cenedlaethol a lleol y DU drwy ddefnyddio unrhyw un o'r adnoddau canlynol:

Findit 

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

Key Databases

Key Journals

Mae cyfnodolion yn darparu'r ymchwil a'r sylwadau diweddaraf.

Rhestrir pob e-Gyfnodolion ar FINDit a gallwch chwilio Catalog y Llyfrgell am fanylion ein daliadau print, dim ond am deitlau cyfnodolion y gallwch chwilio ac nid erthyglau.   Os ydych yn chwilio am erthyglau rhowch gynnig ar Gronfa Ddata neu e-Gyfnodolion. 

Dyma rai enghreifftiau o e-Gyfnodolion.

Print Journals