Skip to Main Content

Datblygiad Plant: Dod o hyd i Lyfrau

Canllaw i fyfyrwyr sy'n astudio Datblygiad Plentyndod ym Mhrifysgol De Cymru.This guide is also available in English

Llyfrau

Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.

Chwilio am lyfr?

1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.

3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd

Nodua silff

Chwiliwch am y rhifau hyn ar y silffoedd i ddod o hyd i lyfrau ar y pynciau canlynol.

Chwilio Findit i ddod o hyd i deitlau llyfrau penodol neu ddod o hyd i lyfrau ar bynciau eraill.

150

 Seicoleg                                               

150.2461

 Seicoleg lechyd

155

 Seicoleg datblygiad

155.25

 Dadansoddiad ymddygiad

155.4

 Seicoleg plant

305.23

 Astudiaethau plentyndod

305.231

 Datblygiad plant

362.2

 Lechyd meddwl

362.7

 Gwasanaethau i blant

370

 Addysg

616.8588

 Anhwylderau datblygiad 

616.89

 Seicoleg annormal 

618.928914       

 Seicotherapi plant a’r glasoed 

 

FinditĀ 

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

eLyfrau

Mae gan y Llyfrgell fynediad i amrywiaeth eang o e-lyfrau ar draws pob maes pwnc, mae'r rhain yn rhai y gellir eu darganfod ac yn hygyrch trwy FINDit. Teipiwch eich geiriau allweddol neu deitl yn y blwch chwilio a dewis chwilio 'Libraries.'

Nesaf, mireiniwch eich chwiliad i 'Testen Llawn Arlein' ar ochr chwith y canlyniadau chwilio.

 

 

Pan fyddwch wedi dod o hyd i lyfr yr hoffech ei ddarllen yna cliciwch ar y teitl a'i gyrchu trwy'r ddolen 'Gweld'.


Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein Canllaw e-lyfrau.

Argymell llyfr

Helpwch ni i dyfu ein casgliad Llyfrgell


A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?

  • Ydych chi wedi dod o hyd i ddarlleniad hynod ddiddorol yr hoffech ei rannu gyda myfyrwyr eraill?
  • Ydych chi'n meddwl bod angen mwy o gopïau o werslyfr pwysig?
  • Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i'n casgliad flodeuo

Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.