/*remove search box*/ Skip to Main Content

Y llyfrgell: sut mae o fudd i mi? : Defnyddio'r Llyfrgell

Mae'r canllaw hon hefyd ar gael yn English

 

Ymuno â'r llyfrgell

Byddwch yn dod yn aelod o'r llyfrgell yn awtomatig pan fyddwch yn derbyn eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr fel rhan o broses cofrestru y Prifysgol.

Gallwch gael mynediad i'ch cyfrif llyfrgell drwy'r ddolen Fy Nghyfrif ar FINDit.

Defnyddiwch eich rhif myfyriwr PDC a'ch cyfrinair TG i fewngofnodi i FINDit.

Dysgwch fwy am Fy Nghyfrif  gyda'n ffilm 'sut i'.

 

Galwch i mewn i archwilio ein casgliadau neu defnyddiwch FINDit i ddod o hyd i fanylion ein holl lyfrau print ac e-lyfrau

Archebwch eich llyfrau ar-lein a'u casglu'n bersonol neu bori'r silffoedd i ddewis yr hyn rydych chi ei eisiau.
Defnyddiwch y peiriannau hunanwasanaeth i fenthyg a dychwelyd llyfrau


Gallwch fenthyg hyd at 25 o lyfrau

Mae llyfrau'n cael eu hadnewyddu'n awtomatig oni bai bod benthyciwr arall yn gofyn am hynny

Oriau Agor

Oriau Agor y Llyfrgell

Mae amseroedd agor llyfrgelloedd y campws yn amrywio felly gwiriwch cyn i chi deithio. Mae croeso i chi ddefnyddio unrhyw un o'n llyfrgelloedd campws.

Ar-lein - FINDit

 

Nid dim ond llyfrau sydd gennym yn ein llyfrgelloedd. Mae gennym hefyd gasgliadau ar-lein i chi eu defnyddio. Mae FINDit yn ddull chwilio syml, un cam ar gyfer llyfrau, e-lyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae'n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi. Gallwch fenthyg hyd at 25 o lyfrau

Canllawiau a ffilmiau


Bydd y ffilmiau byr hyn yn eich helpu i reoli Fy Nghyfrif, dod o hyd i lyfrau, e-lyfrau ac erthyglau cyfnodolion trwy FINDit.

Mae gennym ystod eang o ganllawiau pwnc.

Defnyddiwch y canllawiau hyn i ddod o hyd i'r holl adnoddau allweddol yn eich ardal. Cwrdd â'ch Llyfrgellydd a chael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl lyfrau ac adnoddau diweddaraf sydd gennym ar eich pwnc.

Dewch o hyd i lawer mwy o arweiniad ar ein tudalen canllawiau.

Cyfrifiaduron ac Argraffu

Sefydlu eich Cyfrif TG

I gael mynediad i'r holl gyfleusterau llyfrgell ar-lein bydd angen i chi sefydlu'ch cyfrif TG.

Rydym wedi cynyddu diogelwch eich cyfrif myfyriwr TG PDC. Mae hyn yn cynnwys galluogi Ailosod Cyfrinair Hunanwasanaeth (SSPR) a Dilysu Aml-Ffactor (MFA) gan ddarparu amddiffyniad ychwanegol i'ch cyfrif TG, i gael manylion ar sut i sefydlu'ch cyfrif ewch i IT Induction.


Cymorth a Chefnogaeth
Gofynnwch wrth y Ddesg Ardal Gynghori yn y llyfrgell os oes angen help arnoch gyda TG.
Gallwch hefyd gysylltu â TG yn uniongyrchol.

Ffôn: 01443 482882

Gwefan: https://its.southwales.ac.uk/cymraeg/

 

Gelwir y rhwydwaith WiFi yn eduroam.

Rhwydwaith WiFi rhyngwladol yw eduroam a ddefnyddir o amgylch sefydliadau academaidd ac ymchwil.

I gysylltu ag eduroam dilynwch y cyfarwyddiadau hyn.

Argraffu, llungopïo a sganio

Mae eich cyfrif argraffu yn cael ei greu yn awtomatig fel rhan o'ch cyfrif TG Myfyriwr.

Gallwch ychwanegu credyd at eich cyfrif yn siop argraffu Trefoest neu ar-lein.

Gallwch hefyd argraffu o'ch dyfeisiau eich hun.

Taliadau Argraffu

 5c – A4 du a gwyn
10c – A3 du a gwyn
20c – lliw A4
40c – lliw A3

Mae sganio am ddim

Dysgwch fwy ar wefan Argraffu a Dylunio PDC.