Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.
Gallwch bori drwy'r casgliad gan ddefnyddio'r nodau silff isod:
616.89 | Therapi dawns |
616.891656 | Therapi celf |
701 | Athroniaeth / damcaniaeth celf |
709 | Hanes celf |
731 | Cerflunwaith |
738 | Cerameg |
741 | Lluniadu |
750 | Peintio |
760 | Gwneud printiau |
Defnyddiwch FINDit: Chwilio / Llyfrgelloedd, i wneud chwiliadau manwl ar gyfer llyfrau unigol neu ar gyfer deunydd sy'n berthnasol i'ch testun neu bwnc.
150.1952 | Seicdreiddwyr |
155 | Seicoleg datblygiad |
155.4 | Seicoleg plant |
155.418 | Damcaniaeth ymlyniad |
158.2 | Cysylltiadau rhyngbersonol |
158.3 / 361.06 | Cynghori |
305.231 | Datblygiad plant |
362.2 | Iechyd meddwl |
362.4 | Anabledd |
616.89 | Seicoleg annormal |
616.8914 | Seicotherapi |
616.89142 | Therapi ymddygiad gwybyddol |
616.891523 | Therapi drama |
616.8916 | Therapïau creadigol |
616.891654 | Therapi cerdd |
616.891656 | Therapi celf |
616.8917 | Seicdreiddiad |
618.928914 | Seicotherapi plant a’r glasoed |
1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.
2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.
3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd
A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?
Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.
Mae gan y Llyfrgell fynediad i amrywiaeth eang o e-lyfrau ar draws pob maes pwnc, mae'r rhain yn rhai y gellir eu darganfod ac yn hygyrch trwy FINDit. Teipiwch eich geiriau allweddol neu deitl yn y blwch chwilio a dewis chwilio 'Libraries.'
Nesaf, mireiniwch eich chwiliad i 'Testen Llawn Arlein' ar ochr chwith y canlyniadau chwilio.
Pan fyddwch wedi dod o hyd i lyfr yr hoffech ei ddarllen yna cliciwch ar y teitl a'i gyrchu trwy'r ddolen 'Gweld'.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein Canllaw e-lyfrau.