Mae llyfrau'n rhoi trosolwg o bwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Mae hyn yn eu gwneud yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau. Rhestrir llyfrau craidd ar gyfer eich pwnc ar restr darllen eich modiwl. Os oes gennych restr darllen ar-lein ar Blackboard neu amgylchedd dysgu arall, bydd hyn yn dangos y copïau o'r llyfr sydd ar gael o'r llyfrgell i chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfrau trwy chwilio FINDit, peiriant chwilio'r Llyfrgell.
Gallwch bori drwy'r casgliad gan ddefnyddio'r nodau silff isod:
741.58 Lluniadu a byrddau stori
741.2 Techneg lluniadu
741.6 Darlunio
Defnyddiwch FINDit: Chwilio / Llyfrgelloedd, i wneud chwiliadau manwl ar gyfer llyfrau unigol neu ar gyfer deunydd sy'n berthnasol i'ch testun neu bwnc.
1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.
2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.
3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd
A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?
I argymell llyfr, e-bostiwch eich llyfrgellydd.
Bydd arnom angen:
Teitl ac Awdur y llyfr
Dyddiad
ISBN
Cynhwyswch eich rhif myfyriwr a'r rheswm dros yr argymhelliad.