Skip to Main Content

Canllaw Dechrau Arni ar gyfer y llyfrgell 2023/2024: Y pethau sylfaenol

This guide is available in English

Ffilm

Ymuno â'r llyfrgell

Byddwch yn dod yn aelod o'r llyfrgell yn awtomatig pan fyddwch yn derbyn eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr fel rhan o broses cofrestru'r Brifysgol.

Gallwch gael mynediad i'ch cyfrif llyfrgell drwy'r cyswllt Fy Nghyfrif ar FINDit, catalog y llyfrgell.

Defnyddiwch eich rhif myfyriwr a chyfrinair TG PDC i fewngofnodi i FINDit.

Darganfyddwch fwy am Fy Nghyfrif  gyda’n ffilm ‘sut i’.

Ffilmiau Sut i

Bydd y ffilmiau byr hyn yn eich helpu i reoli Fy Nghyfrif, dod o hyd i lyfrau, e-lyfrau ac erthyglau cyfnodolion trwy FINDit.

Ffilmiau Sut i ar gyfer FINDit

Cyfrineiriau

Sefydlu'ch Cyfrif TG

Er mwyn cyrchu'r holl gyfleusterau llyfrgell ar-lein bydd angen i chi sefydlu'ch cyfrif TG.

Rydym wedi cynyddu'r diogelwch ar eich cyfrif myfyriwr TG USW. Mae hyn yn cynnwys galluogi Ailosod Cyfrinair Hunanwasanaeth (SSPR) a Dilysu Aml-ffactor (MFA) sy'n darparu amddiffyniad ychwanegol i'ch cyfrif TG, i gael manylion ar sut i sefydlu'ch cyfrif ewch i  Sefydlu TG.

 

Cymorth a Chefnogaeth
Gofynnwch wrth y Ddesg Gwybodaeth a Gwasanaeth yn y llyfrgell os oes angen help arnoch gyda TG.

Gallwch hefyd gysylltu â TG yn uniongyrchol.

Ffôn: 01443 482882 
gwefan:https://its.southwales.ac.uk/cymraeg/

 

WiFi

Yr enw ar y rhwydwaith WiFi yw eduroam.

Rhwydwaith WiFi rhyngwladol yw eduroam a ddefnyddir o amgylch sefydliadau academaidd ac ymchwil.

I gysylltu ag eduroam dilynwch y cyfarwyddiadau hyn.

Argraffu, llungopïo a sganio

Argraffu, llungopïo a sganio

Caiff eich cyfrif argraffu ei greu'n awtomatig fel rhan o'ch cyfrif TG Myfyrwyr.

Gallwch ychwanegu credyd at eich cyfrif yn siop argraffu Trefoest neu ar-lein.

Gallwch argraffu o'ch dyfeisiau eich hun.

Taliadau Argraffu
 5c - A4 du a gwyn
10c - A3 du a gwyn
20c - A4 lliw
40c - A3 lliw

Mae sganio yn rhad ac am ddim
Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Argraffu a Dylunio PDC.

 

Oriau agor

Oriau agor y llyfrgell
Mae amseroedd agor y campws yn amrywio felly gwiriwch cyn i chi deithio.

Sgwrsio

Defnyddiwch ein sgwrsio 24/7 i gael help gyda gwasanaethau ac adnoddau llyfrgell.  Yn ystod y dydd byddwch yn cael cymorth gan staff llyfrgell PDC a thu allan i'n horiau staff arferol bydd Llyfrgellydd o Brifysgol arall ar-lein i sgwrsio.

 

Llyfrau

                open book            Faint o lyfrau alla i eu benthyg?

Israddedigion ac ôl-raddedigion a addysgir - 25 eitem
Staff a Myfyrwyr Ymchwil - 25 eitem

Sut ydw i'n dod o hyd iddynt?

Defnyddiwch FINDit i ddod o hyd i fanylion ein holl lyfrau printiedig ac e-lyfrau.

 

Adnoddau ar-lein

FINDit

Nid llyfrau yn unig sydd gennym yn ein llyfrgelloedd.  Mae gennym hefyd gasgliadau ar-lein i chi eu defnyddio.

Gallwch chwilio ar draws ystod eang o adnoddau a darganfod eitemau a gedwir yn y casgliadau hyn trwy FINDit. 

 

Gallwch chwilio ein casgliadau corfforol a'n casgliadau ar-lein trwy FINDit.

 

Help pellach

Llyfrgellwyr Cyfadran

Gall eich llyfrgellydd cyfadran eich helpu chi:

  • Defnyddiwch FINDit i chwilio am lyfrau, e-lyfrau ac erthyglau cyfnodolion o ansawdd, a defnyddiwch ein cronfeydd data yn effeithiol
  • Creu strategaeth chwilio
  • Rheoli eich ymchwil a chael y wybodaeth ddiweddaraf
  • Cael y gorau o'ch llyfrgell

 

Gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio
Cymorth gyda sgiliau astudio e.e. darllen effeithiol, mathemateg, ystadegau, cyfeirnodi, cyflwyno a deall cwestiynau traethawd.

e-bost: studyskills@southwales.ac.uk

Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia
Cymorth a chyngor i fyfyrwyr anabl a myfyrwyr â dyslecsia.

Pontypridd a Chaerdydd Ffôn: 01443 482080

Casnewydd Ffôn: 01633 432505

e-bost: ddsadviser@southwales.ac.uk

Canllaw Pwnc

Mae gennym ystod eang o ganllawiau pwnc.

Defnyddiwch y canllawiau hyn i ddod o hyd i’r holl adnoddau allweddol yn eich ardal.  Cwrdd â’ch Llyfrgellydd a chael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl lyfrau ac adnoddau diweddaraf sydd gennym are ich pwnc.

 

Dewch o hyd i lawer mwy o ganllawiau ar ein Tudalen Cyfeirlyfr Arweiniol.