Byddwch yn dod yn aelod o'r llyfrgell yn awtomatig pan fyddwch yn derbyn eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr fel rhan o broses cofrestru'r Brifysgol.
Gallwch gael mynediad i'ch cyfrif llyfrgell drwy'r cyswllt Fy Nghyfrif ar FINDit, catalog y llyfrgell.
Defnyddiwch eich rhif myfyriwr a chyfrinair TG PDC i fewngofnodi i FINDit.
Darganfyddwch fwy am Fy Nghyfrif gyda’n ffilm ‘sut i’.
Bydd y ffilmiau byr hyn yn eich helpu i reoli Fy Nghyfrif, dod o hyd i lyfrau, e-lyfrau ac erthyglau cyfnodolion trwy FINDit.
Er mwyn cyrchu'r holl gyfleusterau llyfrgell ar-lein bydd angen i chi sefydlu'ch cyfrif TG.
Rydym wedi cynyddu'r diogelwch ar eich cyfrif myfyriwr TG USW. Mae hyn yn cynnwys galluogi Ailosod Cyfrinair Hunanwasanaeth (SSPR) a Dilysu Aml-ffactor (MFA) sy'n darparu amddiffyniad ychwanegol i'ch cyfrif TG, i gael manylion ar sut i sefydlu'ch cyfrif ewch i Sefydlu TG.
Cymorth a Chefnogaeth
Gofynnwch wrth y Ddesg Gwybodaeth a Gwasanaeth yn y llyfrgell os oes angen help arnoch gyda TG.
Gallwch hefyd gysylltu â TG yn uniongyrchol.
Ffôn: 01443 482882
gwefan:https://its.southwales.ac.uk/cymraeg/
Yr enw ar y rhwydwaith WiFi yw eduroam.
Rhwydwaith WiFi rhyngwladol yw eduroam a ddefnyddir o amgylch sefydliadau academaidd ac ymchwil.
I gysylltu ag eduroam dilynwch y cyfarwyddiadau hyn.
Argraffu, llungopïo a sganio
Caiff eich cyfrif argraffu ei greu'n awtomatig fel rhan o'ch cyfrif TG Myfyrwyr.
Gallwch ychwanegu credyd at eich cyfrif yn siop argraffu Trefoest neu ar-lein.
Gallwch argraffu o'ch dyfeisiau eich hun.
Taliadau Argraffu
5c - A4 du a gwyn
10c - A3 du a gwyn
20c - A4 lliw
40c - A3 lliw
Mae sganio yn rhad ac am ddim
Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Argraffu a Dylunio PDC.
Faint o lyfrau alla i eu benthyg?
Israddedigion ac ôl-raddedigion a addysgir - 25 eitem
Staff a Myfyrwyr Ymchwil - 25 eitem
Sut ydw i'n dod o hyd iddynt?
Defnyddiwch FINDit i ddod o hyd i fanylion ein holl lyfrau printiedig ac e-lyfrau.
FINDit
Nid llyfrau yn unig sydd gennym yn ein llyfrgelloedd. Mae gennym hefyd gasgliadau ar-lein i chi eu defnyddio.
Gallwch chwilio ar draws ystod eang o adnoddau a darganfod eitemau a gedwir yn y casgliadau hyn trwy FINDit.
Gallwch chwilio ein casgliadau corfforol a'n casgliadau ar-lein trwy FINDit.
Gall eich llyfrgellydd cyfadran eich helpu chi:
Gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio
Cymorth gyda sgiliau astudio e.e. darllen effeithiol, mathemateg, ystadegau, cyfeirnodi, cyflwyno a deall cwestiynau traethawd.
e-bost: studyskills@southwales.ac.uk
Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia
Cymorth a chyngor i fyfyrwyr anabl a myfyrwyr â dyslecsia.
Pontypridd a Chaerdydd Ffôn: 01443 482080
Casnewydd Ffôn: 01633 432505
e-bost: ddsadviser@southwales.ac.uk
Mae gennym ystod eang o ganllawiau pwnc.
Defnyddiwch y canllawiau hyn i ddod o hyd i’r holl adnoddau allweddol yn eich ardal. Cwrdd â’ch Llyfrgellydd a chael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl lyfrau ac adnoddau diweddaraf sydd gennym are ich pwnc.
Dewch o hyd i lawer mwy o ganllawiau ar ein Tudalen Cyfeirlyfr Arweiniol.