Skip to Main Content

Hanes: Hanes- Dulliau ymchwil

This guide is also available in English

Dulliau ymchwil ar gyfer hanes

Cyfreithiau Hywel Dda
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae'r dudalen ganlynol yn darparu gwybodaeth allweddol am rai agweddau pwysig ar ddulliau ymchwil ar gyfer hanes.
Mae pob adran yn cynnwys canllaw o Sgiliau Astudio PDC a rhai darlleniadau awgrymedig.

 

Dadansoddi dogfen

Dadansoddi dogfen yw dadansoddiad o brif ffynhonnell. Er, yn dechnegol, nid traethodau byr mo'r rhain; dylent gynnwys dechrau, canol a diwedd yn ogystal â chyfeirio'n gyson drwyddi draw.

Mae pedair prif agwedd ar ddadansoddi dogfen:
1    Tarddiad
2    Dadansoddi Cynnwys
3    Cyd-destun Hanesyddol
4    Gwerthuso

Darganfyddwch fwy o'r canllaw hwn o Sgiliau Astudio PDC.

Darllen pellach:

Hanesyddiaeth

Definition:

"The study of the writing of history, although the term is sometimes also used to denote the range of historians’ writings on a particular theme"
Alun Munslow, A history of history (Efrog Newydd: Routledge, 2012), t. 52.

Dylai eich aseiniadau hanesyddol gynnwys:

  • pwnc penodol rydych chi'n mynd i'w archwilio
  • prif awduron ac ysgolion meddwl am y pwnc hwnnw
  • prif ddadleuon a gwrthddywediadau
  • synthesis beirniadol o'r holl ddadleuon

Gellir gweld canllaw cam wrth gam ar greu hanesyddiaeth yma.

Darganfyddwch fwy o'r canllaw hwn o Sgiliau Astudio PDC.

Darllen pellach:

 

Adolygiadau llyfrau

Mae adolygiad o lyfr academaidd/erthygl cyfnodolyn yn ymwneud yn bennaf â phwyso a mesur yr hyn y mae'r cyhoeddiad yn ei ddweud wrthym am bwnc mewn cyfnod penodol o amser. Felly, mae angen iddo gynnwys:

  • Crynodeb o'r pwyntiau allweddol a wnaed gan yr awdur(on).
  • Asesiad beirniadol o'r pwyntiau hynny o ran yr hyn maen nhw'n ei ddweud wrthym am y gorffennol neu o leiaf y fersiwn benodol honno o'r gorffennol.

Darganfyddwch fwy o'r canllaw hwn o Sgiliau Astudio PDC.

Darllen pellach: