Skip to Main Content

Hanes: Mass Observation Online

This guide is also available in English

Rhagymadrodd - Ysgrifennwyd a lluniwyd gan Gareth Jones, BA Hanes

Ymatebion i Wladoli Glo

Prosiect ymchwil sy’n canolbwyntio ar ganfyddiadau arolwg Mass Observation yn 1948

  Rhywfaint o gefndir ar y diwydiant codi glo yn y DU

 

Cyn yr Ail Ryfel Byd, roedd y diwydiant glo ym Mhrydain yn cael ei reoli gan yr Adran Pyllau Glo drwy'r Bwrdd Masnachu, gyda'r cannoedd o byllau glo ledled y wlad yn eiddo i wahanol gwmnïau ac unigolion ag ymagweddau gwahanol. Yng Nghymru, roedd y rhain yn cynnwys busnesau fel Cambrian Combine, a lowciodd nifer o gwmnïau glo llai eraill yn ystod dechrau'r Ugeinfed Ganrif ac a wrthdarodd â'u miloedd o lowyr mewn anghydfodau ynghylch cyflogau. Roedd unigolion blaenllaw o Gymru hefyd yn gwneud enwau drostynt eu hunain, megis William Lewis, Barwn 1af Merthyr, entrepreneur craff a helpodd i adeiladu ysgolion, capeli ac ysbytai lleol, tra hefyd yn gwrthsefyll twf undebau llafur ac yn llywyddu dros drychineb Glofa Senghennydd yn 1913.

Yn Lloegr, daeth amodau enbyd o fewn y pyllau glo i'r amlwg mor gynnar â 1838 yn dilyn trychineb Huskar Colliery, ger Barnsley, pan orlifodd nant i siafft awyru a lladd 26 o blant a oedd yn gweithio yn y pwll. Perodd hwn i’r Frenhines Victoria orchymyn ymchwiliad, a arweiniodd yn y pen draw at Ddeddfau Mwyngloddiau 1842, a oedd yn gyfreithiol yn atal menywod a merched o unrhyw oedran rhag gweithio mewn pyllau glo, a bechgyn dan 10 oed. Yn ymarferol, fodd bynnag, roedd llawer o deuluoedd mor dlawd eu bod methu fforddio rhoi'r gorau i anfon menywod o dan y ddaear, gan arwain at dorri'r gyfraith yn dorfol mewn sawl maes.                          

Cyfrannodd sawl ffactor at ddadl ynghylch y gwladoli glo arfaethedig. Roedd y rhain yn cynnwys amodau gwaith anniogel i lowyr a'r ffaith yr oedd llawer yn nodi iechyd gwael oherwydd eu gwaith yn y diwydiant, annhyfiant cyflog o'i gymharu â sectorau eraill, a dirywiad mewn cynhyrchiant a oedd yn peri pryder arbennig i lywodraeth Prydain wrth iddi geisio cystadlu â phwerdai economaidd eraill ledled y byd.

Y penderfyniad i wladoli'r diwydiant glo

Deddf Gwladoli'r Diwydiant Glo 1946 a ddaeth â mwyngloddio glo yn y Deyrnas Unedig i ddwylo'r wladwriaeth. Digwyddodd o ganlyniad i ethol y llywodraeth Lafur yn 1945, yn unol â maniffesto eu plaid a'u hymrwymiad hirsefydlog i 'Gymal IV' eu cyfansoddiad gwleidyddol a geisiodd ddod â nifer o ddiwydiannau dan berchnogaeth gyhoeddus.

Beth yw Mass Observation?

"An archive of everyday life, thought and feeling in Britain" - MO Online 

Roedd y prosiect Mass Observation yn  rhedeg yn wreiddiol o 1937 tan ddechrau'r 1950au ac roedd yn cynnwys gwirfoddolwyr heb hyfforddiant a oedd yn cadw dyddiaduron ac yn cymryd rhan mewn holiaduron â chwestiynau agored. Roedd hefyd yn cynnwys arolygon penodol ar ran y llywodraeth, gan gynnwys un a gynhaliwyd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn 1948 i farn glowyr a'u teuluoedd am wladoli'r diwydiant. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar yr arolwg hwnnw, a gellir gweld y copïau gwreiddiol ohono yn rhai o'r adrannau isod.

Pwrpas yr arolwg

Image of survey

Rhannwyd yr arolwg yn ddwy ran. 

1. Holiadur uniongyrchol sy'n ymdrin â phynciau megis boddhad neu anfodlonrwydd â swyddi, cyflogau, lles gweithwyr, streiciau, prif gwynion ac ati. Cyfwelwyd 50 o lowyr a 50 o wragedd glowyr ar y pwyntiau uchod. 

2. Cyswllt rhwng glowyr ac ymchwilwyr nad oedd, hyd y gwyddir, yn gweithio i Mass Observation neu ar unrhyw ymholiad swyddogol, ond a ymddangosodd yn yr ardal yn syml fel ymwelwyr.

 

 

'Propiau pren' yn well na rhai dur

An original copy of the report which documents the differences between wooden and steel supports.

Mae'r rhan hon o'r arolwg yn dogfennu pryderon y glowyr ynghylch disodli trawstiau cymorth pren gyda rhai dur. Y prif bryder yw, yn hanesyddol, pan fydd trawstiau pren yn dechrau methu, maen nhw'n gwneud sŵn crecian sy'n rhybuddio gweithwyr cyn iddynt gwympo, tra bod rhai dur yn methu heb rybudd.

'Perchnogion blaenorol pyllau glo yn dal i fod â dylanwad'

Image of survey - COAL MINING 1938-48

Mae'r arolwg yn dweud bod yna fwy o ymatebion cadarnhaol ar y cyfan i wladoli nag ymatebion negyddol. Y peth mwyaf nodedig yn y rhan hon o'r arolwg yw bod rhai o'r glowyr yn teimlo bod perchnogion blaenorol y pyllau glo yn dal i fod â rhyw fath o ddylanwad.

 

'Gormod o swyddogion newydd'

An original document from mass observation showing the suspicion that too many new managerial roles are being created

Mae'r adran hon yn amlygu bod glowyr yn anhapus bod gormod o swyddi newydd wedi eu creu ar gyfer "swyddogion". Dyw'r adroddiad ddim yn dweud yn sicr a yw'r rolau newydd yn rhai "go iawn neu dybiedig".

Mae'r amheuaeth bod gormod o swyddi rheoli o fewn y sector cyhoeddus yn parhau hyd heddiw ymhlith gweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau. 

'Gormod o swyddogion newydd' (Rhan Dau)

Yn yr adran hon, mae un glöwr yn cwyno am y pecyn cyflog ymddangosiadol o £20,000 y flwyddyn i un o swyddogion y Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y wybodaeth hon sy'n dod o glecs ymysg y gweithwyr.

Darllen pellach yn cael ei argymell gan y curadur

Rwy'n argymell yn fawr edrych yn fwy cyffredinol ar yr archifau Mass Observation Online. Mae'r prosiect hwn wedi canolbwyntio ar un arolwg penodol, ond mae'r archifau'n cadw llawer mwy o wybodaeth am y diwydiant glo, megis cofnodion dyddiadur gan lowyr a'u teuluoedd.

Mae gwefan yr Archifau Cenedlaethol yn cynnwys llawer o adnoddau sylfaenol yn ymwneud â chloddio am lo.

I fyfyrwyr PDC mae yna lyfrau ar y silffoedd yn Nhrefforest, fel Coal Mining in Wales  gan Thomas W. Gerwyn ac A History of Coal Mining in Great Britain  gan Galloway and Lindsay.

Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.