Skip to Main Content

Rheolaeth Adeiladu a thirfesur: Dod o hyd i erthyglau

This page is also available in English

Beth yw cyfnodolyn?

Mae cyfnodolion yn gyhoeddiadau sy'n cael eu cyhoeddi'n rheolaidd ac yn barhaus, er enghraifft, yn wythnosol, bob mis, bob chwarter neu bob blwyddyn. Maent yn cynnwys detholiad o erthyglau mewn maes pwnc gan wahanol awduron.

Gelwir yr erthyglau hyn yn erthyglau cyfnodolion. Ysgrifennir erthyglau cyfnodolion academaidd gan ymchwilwyr ac adolygir eu herthyglau gan arbenigwyr eraill yn yr un maes pwnc, mewn proses o'r enw adolygiad cymheiriaid. Ystyrir mai erthyglau cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid yw'r erthyglau cyfnodolion o'r ansawdd gorau sydd ar gael. Erthyglau cyfnodolion yw'r lle gorau i ddod o hyd i'r ymchwil ddiweddaraf ar bwnc.

Chwilio am erthygl mewn cyfnodolyn?

  1. Os hoffech ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion ar bwnc, ceisiwch chwilio yn ôl allweddair gan ddefnyddio Chwiliad Uwch yn FINDit.
  2. Gallwch bori trwy gyfnodolyn penodol trwy'r darganfyddwr cyfnodolion. Mae'r porwr cyfnodolion hwn yn caniatáu ichi archwilio casgliadau cyfnodolion yn ôl pwnc.
  3. Ceisiwch fynd yn uniongyrchol i gronfa ddata arbenigol i gael canlyniadau sy'n canolbwyntio ar faes pwnc.
  4. Os ydych wedi dod o hyd i erthygl nad ydym yn darparu mynediad iddi, gallwch ofyn amdani gan lyfrgell arall.


 

Cronfeydd Data Allweddol

Cronfeydd data adeiladu

Papurau newydd

Chwilio archifau papurau newydd cenedlaethol a lleol y DU drwy ddefnyddio unrhyw un o'r adnoddau canlynol:

Findit 

Mae FINDit  yn ddull chwilio syml, un-cam, am lyfrau, elyfrau, erthyglau, DVDs a mwy, ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion personol i chi.

Contractau

Contract Gwasanaethau Proffesiynol Safonol RIBA 2020: Gwasanaethau Pensaernïol


Mae rhifyn 2020 newydd o Gontract Gwasanaethau Proffesiynol Safonol RIBA wedi'i ddiweddaru'n llawn i alinio â Chynllun Gwaith diwygiedig RIBA ac mae ar gyfer penodi pensaer neu ymgynghorydd sy'n darparu gwasanaethau pensaernïol.

Gellir llawrlwytho copi enghreifftiol yma.
 

Information Protocol (pdf)
Protocol Gwybodaeth i gefnogi BS EN ISO 19650-2, cam cyflenwi asedau.

BIM Conditions of Contract (pdf)
Amodau Contract ar gyfer Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM). Sefydliad Syrfewyr Hong Kong.

BIM for Project Managers (pdf)
Mae BIM yn parhau i ddominyddu prosesau ar draws yr amgylchedd adeiledig. Mae'n cynnig cyfleoedd helaeth i yrru amgylchedd adeiledig mwy effeithiol ac effeithlon.
 

Building Information Modelling (BIM) Protocol
Protocol Safonol i'w ddefnyddio mewn prosiectau sy'n defnyddio Modelau.

Information Management  - BS EN ISO 19650-3:2020
Trefnu a digideiddio gwybodaeth am adeiladau a gwaith peirianneg sifil, gan gynnwys modelu gwybodaeth am adeiladau (BIM). 
Rheoli gwybodaeth gan ddefnyddio modelu gwybodaeth adeiladu. Cam gweithredol yr asedau.

Cyrchwch y safon hon ar BSOL.

Y JCT

Mae’r Joint Contracts Tribunal, yn cynhyrchu mathau safonol o gontract ar gyfer adeiladu, nodiadau cyfarwyddyd a dogfennau safonol eraill i'w defnyddio yn y diwydiant adeiladu.

Mynediad ar-lein drwy'r  Construction Information Service Database (CIS)

Llyfrau defnyddiol
Chappel D (2016) The JCT minor works building contracts 2016

Lupton S (2017) Guide to JCT Standard Building Contract

Lupton S (2016) Guide to JCT Minor Works Building Contract

Access Lupton books online through the Construction Information Service Database (CIS)

Gwefan swyddogol JCT -  -  https://www.jctltd.co.uk/

 

NEC – Mae New Engineering Contract yn deulu o gontractau sy'n hwyluso gweithredu egwyddorion ac arferion rheoli prosiect cadarn yn ogystal â diffinio perthnasoedd cyfreithiol.

Mae'r set lawn o gontractau NEC 4 ar gael yn Llyfrgell Campws Trefforest yn 692.8 NEC.

NEC3 Contracts

NEC3 Option A

NEC4 Contracts
NEC4 User guides
NEC4 Option A  Priced contract with activity schedule.
​NEC4 Option C Target contract with activity schedule
NEC4 Alliance Contract Special Edition - July 2018

Llyfrau defnyddiol
Hughes K (2018) Understanding NEC4
Bronwyn M (2018)  NEC4:The role of the project manager
ICE (2017) NEC3 and NEC4 compared
Gerrard R (2017) NEC4 practical solutions

Gwefan swyddool NEC   - https://www.neccontract.com/

                youtube               NEC Youtube Chanel - llawer o fideos hyfforddi, astudiaethau achos, gweminarau.

FIDIC – Mae Ffederasiwn Rhyngwladol y Peirianwyr Ymgynghorol, wedi bod yn enwog ers amser maith am ei ffurfiau contract safonol i'w defnyddio rhwng cyflogwyr a chontractwyr ar brosiectau adeiladu rhyngwladol.

Gellir dod o hyd i gontractau FIDIC ar   Construction Information Service database.

Gellir dod o hyd i gopïau print o rai o'r contractau yn llyfrgell campws Trefforest.

FIDIC conditions of contract for EPC/turnkey projects. (Silver Book)
FIDIC conditions of contract for construction (Red Book)
FIDIC conditions of contract for plant and design-build (Yellow Book)

Llyfrau Defnyddiol

Mae cytundeb Client/consultant model services 2017 (Llyfr Gwyn) ar gael ar  Construction Information Service database.

Charratt D, (2018) The application of contracts in engineering and construction projects

Hughes K (2020) Understanding FIDIC: The rainbow suite

Gwefan swyddool  - http://fidic.org/

 

Infrastructure Conditions of Contract (ICC)

Ar gael mewn print yn Llyfrgell campws Trefforest

Marc dosbarth 692.8 INF

RICS Standard Form of Consultant's Appointment

RICS Standard Form of Consultants' Appointment (explanatory notes)

Gwasanaethau Syrfër Meintiau 
Ffurf i'w defnyddio gyda ffurf safonol RICS o benodiad ymgynghorydd a ffurf fer penodiad RICS ar gyfer ymgynghorydd.

Gwasanaethau Rheolwr Prosiect         
Ffurf i'w defnyddio gyda ffurf safonol RICS ar gyfer penodiad ymgynghorydd, a ffurf fer penodiad RICS ar gyfer ymgynghorydd.

Google Scholar

Beth yw Google Scholar?

Mae Google Scholar yn ffordd syml o chwilio am lenyddiaeth ysgolheigaidd. Yn Scholar gallwch chwilio ar draws nifer o ddisgyblaethau a ffynonellau, gan gynnwys erthyglau cyfnodolion, traethodau ymchwil, llyfrau a chrynodebau, gan gyhoeddwyr academaidd, cymdeithasau proffesiynol, ystorfeydd ar-lein, prifysgolion a gwefannau eraill. 

Sut mae'n wahanol i Google?

Mae gan Google gwmpas ehangach na Google Scholar ac mae'n edrych am adnoddau waeth o ble maen nhw'n dod a gan bwy maen nhw'n cael eu hysgrifennu. Yn hytrach na chwilio'r we gyfan, mae Google Scholar yn chwilio am lenyddiaeth ysgolheigaidd yn unig. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael canlyniadau llawer mwy perthnasol, awdurdodol a chyfredol.

 

A allaf gael gafael ar erthyglau testun llawn?

Gallwch, ond nid bob amser. Mae rhai erthyglau ar gael am ddim, a gallwch hefyd sefydlu Google Scholar i gael mynediad i danysgrifiadau cylchgronau'r Brifysgol.

 

I wneud hyn, cliciwch ar Settings yna Library Links. Teipiwch University of South Wales i mewn i'r blwch chwilio a dewiswch FINDit@University of South Wales - Viewonline@USW. Ticiwch y bocsus wrth ymyl y canlyniadau ac arbed. Gallwch nawr gael mynediad i'n tanysgrifiadau drwy Google Scholar.

 

A oes angen i mi ddefnyddio FINDit o hyd?

Mae Google Scholar yn fan cychwyn da ar gyfer eich ymchwil, ond cofiwch nad yw'n mynegi popeth. Mae'n bwysig defnyddio FINDit yn ogystal â chwilio ein cronfeydd data tanysgrifiadau a chyfnodolion ar gyfer erthyglau cyfnodolion perthnasol.

 

I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar ein Canllaw ar gyfer FINDit neu cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Cyfadran.

Google Scholar Search

Mewn mannau eraill ar y we