Byddardod yw methu clywed. Yn ôl Action on Hearing Loss, mae gan o leiaf 11 miliwn o bobl (tua un o bob chwech o boblogaeth y DU) raddau amrywiol o golled clyw. Amcangyfrifir y bydd y ffigur hwn yn codi i 15 miliwn erbyn 2035.
Y boblogaeth F/fyddar yn y DU
Mewn pobl dros 50, mae gan o leiaf 40% ryw fath o golled clyw ac mae hyn yn codi i tua 70% mewn oedolion dros 70. Mae 900,000 yn cael eu hystyried yn ddifrifol neu’n hollol fyddar. Amcangyfrifir bod 24,000 yn defnyddio iaith arwyddion fel eu hiaith gynradd.
Mae tua 50,000 o blant yn y DU sydd â nam ar eu clyw a ganwyd hanner y nifer hwnnw gydag ef.
Ynglŷn â’r Canllaw Llyfrgell hwn
Bydd y canllaw hwn yn darparu gwybodaeth a chysylltiadau i adnoddau llyfrgell PDC a gwybodaeth bellach yn ymwneud â byddardod a diwylliant Byddar. Mae yna hefyd adran leol wedi'i hanelu at bobl B/byddar yn Ne Cymru sy'n astudio ac yn gweithio yn PDC.
Os hoffech chi argymell adnoddau a gwybodaeth leol sy'n ymwneud â phobl fyddar, byddar a thrwm eu clyw, cysylltwch â catherine.finch@southwales.ac.uk