Skip to Main Content

Canllaw ymwybyddiaeth pobl fyddar: Cyflwyniad

Ymwybyddiaeth pobl fyddar.
This guide is also available in English

Ynglŷn â Byddardod

Byddardod yw methu clywed. Yn ôl Action on Hearing Loss, mae gan o leiaf 11 miliwn o bobl (tua un o bob chwech o boblogaeth y DU) raddau amrywiol o golled clyw.  Amcangyfrifir y bydd y ffigur hwn yn codi i 15 miliwn erbyn 2035.

Y boblogaeth F/fyddar yn y DU​

Mewn pobl dros 50, mae gan o leiaf 40% ryw fath o golled clyw ac mae hyn yn codi i tua 70% mewn oedolion dros 70. Mae 900,000 yn cael eu hystyried yn ddifrifol neu’n hollol fyddar. Amcangyfrifir bod 24,000 yn defnyddio iaith arwyddion fel eu hiaith gynradd. 

Mae tua 50,000 o blant yn y DU sydd â nam ar eu clyw a ganwyd hanner y nifer hwnnw gydag ef. 

Ynglŷn â’r Canllaw Llyfrgell hwn

Bydd y canllaw hwn yn darparu gwybodaeth a chysylltiadau i adnoddau llyfrgell PDC a gwybodaeth bellach yn ymwneud â byddardod a diwylliant Byddar. Mae yna hefyd adran leol wedi'i hanelu at bobl B/byddar yn Ne Cymru sy'n astudio ac yn gweithio yn PDC. 

Canolfan Pobl Fyddar Cymru

Mae Cyngor Pobl Fyddar Cymru wedi'i leoli ym Mhontypridd ac mae'n gweithio gyda sefydliadau B/byddar sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o Gymru.  Mae'r gwasanaethau'n cynnwys:  

  • Darparu cymorth cyfathrebu ar y pryd i ysbytai lleol a darparwyr gofal eilaidd fel meddygon teulu.   
  • Hyfforddiant BSL o gyflwyniad sylfaenol yr holl ffordd i lefel 6.  
  • Athro BSL cymwys yn darparu dosbarthiadau Iaith Arwyddion i blant ac athrawon ar gyfer ysgolion â disgyblion byddar yn ardal Rhondda Cynon Taf (RCT) 
  • Cynnal grŵp babanod a phlant bach byddar unwaith y mis 
  • Hwyluso a grymuso pobl B/byddar, rhai sydd wedi colli eu clyw a phobl drwm eu clyw i sefydlu clybiau ac adeiladu cymunedau trwy glybiau a rhwydweithiau cymdeithasol. 

Mae gan y sefydliad gysylltiadau gyda PDC ar ôl gweithio gyda darlithwyr a myfyrwyr i ddarparu hyfforddiant iaith arwyddion sylfaenol yn ôl y galw ar gyfer cyrsiau seiliedig ar iechyd. 

Allwch chi helpu?

Mae angen myfyrwyr i wirfoddoli i helpu gyda gweinyddiaeth a datblygu’r wefan. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Cath Booth.

Edrychwch ar y wefan am ragor o wybodaeth neu dilynwch ar Facebook a Twitter

Cysylltiadau Allweddol

Blogiau i’r byddar