Skip to Main Content

Canllaw ymwybyddiaeth pobl fyddar: Staff a fyddar ym Mhrifysgol De Cymru

Ymwybyddiaeth pobl fyddar.
This guide is also available in English

Staff a myfyrwyr byddar ym Mhrifysgol De Cymru

Dyma broffiliau rhai o'n staff a myfyrwyr B/byddar.

Stuart Parkinson: Tiwtwo Sgiliau Arbenigol

Yn cefnogi myfyrwyr ag anableddau ym maes sgiliau astudio a hyrwyddo ymwybyddiaeth o fyddardod o fewn y Brifysgol. 

Deuthum yn Weithiwr Ieuenctid dan hyfforddiant yn 1990 a phasiais y Cwrs Gwaith Ieuenctid Bessey a Chymunedol flwyddyn yn ddiweddarach, wedi’i achredu ar y pryd gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru. 

Rhwng 2000 a 2003, mynychais Goleg Prifysgol Cymru Casnewydd i astudio BA Anrh mewn Astudiaethau Ieuenctid a Chymunedol. Fe wnes i fwynhau fy nghyfnod fel myfyriwr aeddfed yn fawr, ac ni feddyliais erioed y byddwn yn mynd i’r Brifysgol o ystyried nad oedd gennyf fawr ddim i’w ddangos yn academaidd yn ystod fy mlynyddoedd ffurfiannol yn fy Ysgol Uwchradd trwy ddiffyg cefnogaeth cyfathrebu. 

Yn ystod 2006 – 2008 astudiais y Dystysgrif Addysg Ôl-raddedig (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol), a oedd yn gymhwyster gorfodol ar gyfer gweithio fel Gweithiwr Ieuenctid llawn amser a hefyd yn ofynnol ar gyfer addysgu mewn Addysg Bellach fel Athro Iaith Arwyddion. 

Ar yr adeg hon, gofynnwyd i mi a fyddai gennyf ddiddordeb mewn darparu cymorth Sgiliau Astudio i fyfyrwyr Byddar a oedd yn astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol).  Cymerais y cyfle hwn ac nid wyf erioed wedi edrych yn ôl. Mae’n foddhaol rhannu taith myfyrwyr a’u graddio yn y pen draw. 

Cyhoeddiadau

Rwyf wedi bod ar y teledu ychydig o weithiau yn arbennig BBC See Hear, newyddion BBC Cymru ac ITV Cymru, un yn cynnwys fy Ngwobr i Gyflawnwyr Pobl Fyddar BT 1995 ac yn fwyaf diweddar yn hyrwyddo ymdrechion hygyrchedd i Gymuned Fyddar Sherman 5. Yn y gorffennol, mae erthyglau wedi’u hysgrifennu amdanaf yn y British Deaf News am fy nghefndir fel Ymddiriedolwr Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain. 

Rwyf wedi ymddangos yng nghylchgrawn adran Undeb y Gweithwyr Cymunedol ac Ieuenctid Unite ar ôl ysgrifennu rhai erthyglau am gynnwys pobl ifanc byddar a gweithwyr ieuenctid byddar i dynnu sylw at y broses a’r arfer da sydd ei hangen.