Croeso i'ch canllaw pwnc. Llywiwch y canllaw gan ddefnyddio'r tabiau, lle byddwch chi'n dod o hyd i wybodaeth a dolenni i adnoddau dibynadwy yn y llyfrgell i helpu gyda'ch aseiniadau
Dyma hefyd y lle i ymgyfarwyddo â'ch Llyfrgellydd Cyfadran.
Gallwch bori drwy'r casgliad gan ddefnyddio'r nodau silff isod:
306.484 | Diwylliant perfformiad |
306.4848 | Diwylliant theatr |
791 | Celfyddydau perfformio / astudiaethau perfformiad |
791.01 | Y celfyddydau perfformio - theori |
792 | Theatr |
792.01 | Theatr - theori |
792.022 | Mathau o gyflwyniadau llwyfan |
792.0233 | Cyfarwyddo theatr |
792.025 | Dylunio setiau |
792.028 | Actio a pherfformio |
792.09 | Hanes theatr |
822 | Drama Saesneg |
891.6622 | Drama Gymreig |
Defnyddiwch FINDit: Chwilio / Llyfrgelloedd, i wneud chwiliadau manwl ar gyfer llyfrau unigol neu ar gyfer deunydd sy'n berthnasol i'ch testun neu bwnc.
1. I ddod o hyd i deitl llyfr penodol, nodwch deitl y llyfr neu'r awdur ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.
2. I ddod o hyd i lyfrau ar bwnc, rhowch allweddair ym mocs chwilio FINDit a dewiswch yr opsiwn chwilio’r llyfrgell.
3. Ddim yn gallu dod o hyd i'r llyfr rydych chi'n chwilio amdano? Gallwch ofyn amdano fel benthyciad rhyng-lyfrgellol neu Argymell llyfr i'ch Llyfrgellydd
A oes yna lyfr a fyddai'n ychwanegiad defnyddiol i'n Llyfrgell?
Llenwch y ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich llyfrgellydd.
Mae gan y Llyfrgell fynediad i amrywiaeth eang o e-lyfrau ar draws pob maes pwnc, mae'r rhain yn rhai y gellir eu darganfod ac yn hygyrch trwy FINDit. Teipiwch eich geiriau allweddol neu deitl yn y blwch chwilio a dewis chwilio 'Libraries.'
Nesaf, mireiniwch eich chwiliad i 'Testen Llawn Arlein' ar ochr chwith y canlyniadau chwilio.
Pan fyddwch wedi dod o hyd i lyfr yr hoffech ei ddarllen yna cliciwch ar y teitl a'i gyrchu trwy'r ddolen 'Gweld'.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein Canllaw e-lyfrau.